Partneriaid corfforaethol

Credit: Artes Mundi

Fel elusen nid-er-elw, rydyn ni’n mynd ati i geisio adeiladu partneriaethau drwy ymgysylltiad a chefnogaeth gorfforaethol, sy’n gweithredu fel dull hanfodol o godi arian gan helpu i sicrhau dyfodol ein sefydliad. Wrth ymuno ag Artes Mundi byddwch yn dod yn rhan o gymuned amrywiol o gwmnïau blaenllaw o Gymru a’r DU sy’n cefnogi ein cenhadaeth o gyflwyno rhagoriaeth mewn celfyddyd weledol gyfoes tra’n creu cyfleoedd ymgysylltu i bobl o bob oed drwy raglenni dysgu trwy brofiad ac addysg arloesol.

 

Mae Artes Mundi yn gatalydd ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghaerdydd a Chymru. Mae eiriolaeth o’r fath yn hanfodol i’n gwaith ni a phwy rydyn ni’n gweithio gyda nhw ac yn gallu cael effaith bellgyrhaeddol.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda sawl partner corfforaethol i gyflawni ein rhaglen. Er mwyn parhau i ddarparu ein holl raglenni am ddim i’r cyhoedd, mae angen eich cefnogaeth arnom. Gyda chi gallwn gynnal a thyfu mewn ffyrdd sy’n creu ystyr ac arwyddocâd i’r cyhoedd ehangaf. At hynny, gyda’ch cymorth chi, byddwn yn gallu cyflawni ac adeiladu’r gwaddol angenrheidiol, ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a chreu perchnogaeth sy’n bwydo’n ôl i gymdeithas yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Mae nifer o wahanol ffyrdd y gall y sector corfforaethol gymryd rhan a chefnogi dyfodol Artes Mundi.


Nawdd Corfforaethol

“Diolch i chi i gyd am roi
cymaint o groeso i ni.
Rydyn ni i gyd eisiau
symud i Gaerdydd!" ”

Cyfarwyddwr Cwrs
BA Celfyddyd Gain,
Prifysgol Bath Spa


“Fe wnaeth ein cleientiaid
fwynhau’r arddangosfa yn fawr,
gan ymgysylltu a gofyn llawer o
gwestiynau. Dywedodd un cleient
wrtha’i cyn mynd ei fod yn casáu celf. Cyfaddefodd yn ddiweddarach
ei fod wedi mynd yn ôl ar ei ben
ei hun oherwydd ei fod wedi ei
fwynhau gymaint. Dywedodd ei
fod wedi taro i mewn i
gleientiaid eraill a oedd wedi
bod ar y daith pan aeth yn ôl”

Oasis

Cynyddu proffil a gwelededd eich cwmni drwy ddod yn noddwr. Gallwn weithio gyda chi i ddod o hyd i synergedd o amgylch gwahanol elfennau o’n rhaglenni, gan nodi meysydd gwerthoedd a rennir tra’n amlygu cyfleoedd lletygarwch ac ymwybyddiaeth brand. Bydd nawdd yn cael ei deilwra i ddarparu manteision sy’n unigryw i’n perthynas â chi a gall gynnwys:

Credit: Artes Mundi 8 - 24th January 2019, National Museum Cardiff

Credit: Artes Mundi

– Opsiynau nawdd unigryw neu bartner sy’n canolbwyntio ar ein harddangosfa, seremoni wobrwyo Gwobr Artes Mundi a chynhadledd fforwm artistiaid bob dwy flynedd.

– Opsiynau nawdd unigryw neu bartner sy’n canolbwyntio ar ein digwyddiadau, dysgu, ymgysylltu â’r cyhoedd ac allgymorth cymunedol gan gynnwys gwaith gydag ysgolion, teuluoedd, plant, ac amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol yng Nghaerdydd a ledled Cymru; a’n tîm o Gynorthwywyr Ymgysylltu â’r Cyhoedd llawrydd sy’n helpu i gyflwyno ein rhaglenni

– Cydnabyddiaeth ym mhob gohebiaeth mewn print ac ar-lein

– Amlygiad brand ar y cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau print, cylchlythyrau a gwefannau prosiect

– Mynediad at rwydwaith egnïol a chreadigol o selogion celf a diwylliant

Cysylltwch â ni

I gael gwybod mwy am yr opsiynau hyn cysylltwch â
Lianne Toye drwy e-bost; Lianne.Toye@artesmundi.org neu ar y ffôn: 0300 7777 300.


Cylch Orielau

Credit: Artes Mundi 8 Private View, Mathew Horwood

Rydyn ni’n ffodus i weithio’n agos gyda rhai o’r artistiaid rhyngwladol mwyaf deinamig a blaengar a’u horielau, ac yn gwerthfawrogi ein perthynas â nhw. Mae ein Cylch Orielau yn gymuned o bartneriaid rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yn ystod arddangosfeydd Artes Mundi olynol.

Os hoffech ein cefnogi drwy ddod yn aelod o’n Cylch Orielau, cysylltwch â Nigel Prince drwy e-bost; nigel.prince@artesmundi.org neu ar y ffôn: 0300 7777 300


Dod yn Noddwr

Credit: Artes Mundi The Showroom, Max Colson

Rydyn ni am i bawb allu ymuno â ni fel aelod ac yn union fel y mae ein rhaglen weithgarwch yn hygyrch i bawb, mae ein Cynllun Noddwyr yn agored i bawb. Mae rhodd o £5 yn unig yr un mor bwysig i ni â rhodd o £50,000 ac rydyn ni am sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu a dod yn rhan o Deulu Artes Mundi.

Cysylltwch â ni

Os hoffech drafod cyfleoedd i fod yn noddwr, cysylltwch â Lianne Toye drwy e-bost; Lianne.Toye@artesmundi.org neu ar y ffôn: 0300 7777 300

 

Rhif Cofrestru Elusennol 1097377