Unigolyn sy'n rhoi

"Yr hyn rydw i wedi'i
ddysgu o wneud y daith
hon yw bod fy marn i'n
bwysig. Cyn hyn, doeddwn
i ddim yn deall hynny.
Bellach, rwy'n deall.
Nawr rwy'n deall c
elfyddyd gyfoes”

Aelod o
Aurora Trinity Collective


"Heddiw oedd y tro
cyntaf i mi fod i'r amgueddfa.
Roeddwn i'n meddwl bod y
daith yn ddiddorol oherwydd
fe wnes i sylweddoli fy mod
i’n hoffi celf. Cyn y daith
doeddwn i ddim yn gwybod
dim am gelf. Heddiw oedd
y tro cyntaf i mi ymgysylltu.
Fe wnes i fwynhau.
Roeddem hefyd yn cael gofyn
cwestiynau fel rhan o'r daith.
Wnes i fwynhau heddiw.
Gobeithio y bydd mwy
yn y dyfodol "

Cyfranogwr mewn
Taith BSL gyda thywysydd
o arddangosfa Artes Mundi 8

Ein nod yw parhau i hyrwyddo, cynnal, gwella a datblygu’r angen i ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd gyda’r celfyddydau er budd pawb, gan annog cyfranogiad a chwalu’r rhwystrau ac elitaeth sy’n cadw pobl a chymunedau cyfan i ffwrdd oddi wrth ddiwylliant. Yn syml, rydyn ni’n ymlafnio i geisio sicrhau hygyrchedd llawn cymaint â rhagoriaeth.

Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae’n ein galluogi i ariannu arddangosfeydd anhygoel ac i gynnig gweithdai, teithiau, sgyrsiau, perfformiadau a digwyddiadau a fydd yn cyflwyno celfyddyd weledol gyfoes i filoedd o blant, teuluoedd a chymunedau.

Cyfrannu rhodd

Gall eich rhodd hael ein helpu i barhau i gynnig ein rhaglenni arddangos, dysgu ac ymgysylltu â’r gymuned yn rhad ac am ddim ac mewn modd sy’n hygyrch i bawb.

Rhodd Cymorth

Sut bynnag y byddwch yn dewis rhoi, cofiwch ddewis Rhodd Cymorth ar gyfer eich cyfraniad. Os ydych yn drethdalwr yn y DU, gallwn adennill y dreth yr ydych eisoes wedi’i thalu, gan gynyddu ei gwerth £2.50 am bob £10 a gyfrannwch i gefnogi ein gwaith.


Etifeddiaeth a
Rhoi wedi'i Gynllunio

Fel unigolyn sy’n chwarae rhan weithredol yn y celfyddydau a diwylliant, rydych yn byw ac yn cyfrannu at fywyd creadigol ac ysbrydoledig i bawb. Dylai eich etifeddiaeth fod yn adlewyrchiad ohonoch, eich mwynhad o gelf ac yn fodd i ddathlu eich cyflawniadau gyda’r rhai sydd agosaf atoch.

Credit:

Credit:

Mae cofio Artes Mundi drwy gymynrodd yn eich Ewyllys yn un o’r rhoddion mwyaf pwysig ac ystyrlon y gallwch ei wneud. Mae etifeddiaeth o’r fath i elusennau wedi’u heithrio rhag treth etifeddiant a gallant gael effaith drawsnewidiol ar allu sefydliad fel Artes Mundi wrth i ni rannu eich angerdd dros y celfyddydau ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’ch stori. Drwy eich rhodd, bydd Artes Mundi yn parhau i gyfrannu tuag at fywyd diwylliannol Caerdydd, Cymru a’r DU, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan ddod ag ymgysylltiad â chelfyddyd weledol gyfoes i ystod eang ac amrywiol o gynulleidfaoedd gan gynnwys miloedd o oedolion, plant a chymunedau, yn rhad ac am ddim.

Gall unrhyw un adael etifeddiaeth i Artes Mundi a bydd pob rhodd, beth bynnag fo’r swm, yn gwneud gwahaniaeth i’r hyn y gallwn ei gyflawni, gan helpu i sicrhau dyfodol cryf i sefydliad cyffrous, deinamig ac arloesol.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch gefnogi Artes Mundi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni drwy gysylltu â Lianne Toye drwy e-bost:
lianne.toye@artesmundi.org 

neu ffoniwch 0300 7777 300

Rhif Cofrestru Elusennol 1097377