Chapter
Chapter
Heol y Farchnad
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE
https://www.chapter.org/
Ffôn: 029 2031 1050
E-bost: enquiry@chapter.org
Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter, sydd â’i gwreiddiau yng nghanol Caerdydd. Cafodd ei sefydlu gan artistiaid yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac mae hi wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.
Maen nhw’n comisiynu ac yn cyflwyno arddangosfeydd, ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau amlddisgyblaethol sy’n ysgogi’r meddwl gan artistiaid cyfoes newydd a sefydledig sy’n ehangu ein bydolwg ac yn herio’r status quo. Gan groesawu safbwyntiau niferus ac amrywiol, cymryd risgiau ac arbrofi, mae eu rhaglen yn annog sgyrsiau sy’n croesi ffiniau a disgyblaethau.
Credit:
Mae’r artistiaid maen nhw’n gweithio gyda nhw’n mynd ati i ystyried materion a chwestiynau hanfodol sy’n siapio ein presennol, ac maen nhw’n meithrin deialog rhwng cynulleidfaoedd ac artistiaid drwy raglen gyhoeddus sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu drwy ein hanes, y ffordd rydyn ni’n byw nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol newydd.
Ochr yn ochr â’u rhaglen gyhoeddus eang, maen nhw’n gweithio tu ôl i’r llen i gefnogi’r gymuned greadigol yn eu 50+ o stiwdios a’r tu hwnt, gan ddod â phobl at ei gilydd i annog syniadau ac ymreolaeth gasgliadol.
Dydd Llun: 8.30 yb – 10 yp
Dydd Mawrth: 8.30 yb – 11 yp
Dydd Mercher: 8.30 yb – 11 yp
Dydd Lau: 8.30 yb – 11.30 yp
Dydd Gwener: 8.30 yb – 12 yp
Dydd Sadwrn: 8.30 yb – 12 yp
Dydd Sul: 8.30 yb – 10 yp
Oriel: Dydd Mawrth – Dydd Sul, 11 yb – 5 yp.
Rhydd i fynd i mewn
Hygyrchedd: https://www.chapter.org/cy/ymweliad/hygyrchedd/
Sut i Gyrraedd Yno
Ar droed
Rydyn ni wedi’n lleoli ar ochr orllewinol Caerdydd, ac mae’n hawdd dod o hyd i ni o ganol y ddinas. Gallwch ddefnyddio ap llwybrau cerdded i’ch helpu, fel Map My Walk neu Mapiau Google.
Bws
Gallwch ddal bysiau rhif 17, 18 yn uniongyrchol (arhosfan Canolfan Gelfyddydau Chapter) bob 5 munud o ganol Caerdydd.
Beic
Mae ganddon ni orsaf feiciau dan do o flaen ein prif fynedfa, ac mae gorsaf Next Bike ar Blas y Farchnad.
Car
Er hwylustod, mae ganddon ni faes parcio am ddim y tu ôl i’r adeilad gyda chwech lle dynodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas. Gall fynd yn brysur iawn yno, ond mae sawl maes parcio arall yn gyfagos. Caiff y meysydd parcio cyhoeddus yn Nhreganna eu gweithredu gan Gyngor Caerdydd, a gallwch barcio am ddim am hyd at ddwy awr rhwng 8yb a 6yh. Wedi hynny, mae ffi safonol o £3 y diwrnod. Gallwch barcio am ddim rhwng 6yh ac 8yb, a drwy’r dydd ar ddydd Sul.
Mae rhai llefydd parcio ar Blas y Farchnad, o flaen Chapter. Byddwch yn ofalus wrth barcio yn yr ardal yma, gan fod rhai gofodau’n ymddangos fel petaen nhw’n llefydd parcio, ond maen nhw y tu ôl i linellau dwbl. Mae’r llinellau dwbl yn berthnasol i’r ardal gyfan sydd y tu ôl iddyn nhw, gan gynnwys y pafin, felly os byddwch chi’n eu pasio, byddwch chi’n parcio’n anghyfreithlon ac mae’n bosib y byddwch chi’n cael tocyn parcio.