Chapter

Chapter
Heol y Farchnad
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE

 

https://www.chapter.org/

Ffôn: 029 2031 1050

E-bost: enquiry@chapter.org

Sefydlwyd Chapter gan artistiaid ym 1971, ac mae’n ganolfan genedlaethol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant cyfoes. Mae’n ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith arloesol, dyfeisgar a chymhellol o safon fyd-eang.

 

Mae Chapter yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o waith celf cenedlaethol a rhyngwladol o’r radd flaenaf; mae dwy sinema’n cynnig ffilmiau annibynnol a heriol ochr yn ochr ag amrywiaeth o wyliau unigryw, ac mae ei gofodau theatr yn llwyfan ar gyfer dramâu arbrofol sy’n procio’r meddwl, dawns, cerddoriaeth, celf fyw a llawer mwy.  

Credit:

Amseroedd Agor

Dydd Llun: 8.30 yb – 10 yp

Dydd Mawrth: 8.30 yb – 11 yp

Dydd Mercher: 8.30 yb – 11 yp

Dydd Lau: 8.30 yb – 11.30 yp

Dydd Gwener: 8.30 yb – 12 yp

Dydd Sadwrn: 8.30 yb – 12 yp

Dydd Sul: 8.30 yb – 10 yp

 

Oriel: Dydd Mawrth – Dydd Sul, 11 yb – 5 yp.

 

Rhydd i fynd i mewn

 

Hygyrchedd: https://www.chapter.org/cy/ymweliad/hygyrchedd/

Sut i Gyrraedd Yno

Ar droed
Rydyn ni wedi’n lleoli ar ochr orllewinol Caerdydd, ac mae’n hawdd dod o hyd i ni o ganol y ddinas. Gallwch ddefnyddio ap llwybrau cerdded i’ch helpu, fel Map My Walk neu Mapiau Google.

 

Bws
Gallwch ddal bysiau rhif 17, 18 yn uniongyrchol (arhosfan Canolfan Gelfyddydau Chapter) bob 5 munud o ganol Caerdydd.

 

Beic
Mae ganddon ni orsaf feiciau dan do o flaen ein prif fynedfa, ac mae gorsaf Next Bike ar Blas y Farchnad.

 

Car
Er hwylustod, mae ganddon ni faes parcio am ddim y tu ôl i’r adeilad gyda chwech lle dynodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas. Gall fynd yn brysur iawn yno, ond mae sawl maes parcio arall yn gyfagos. Caiff y meysydd parcio cyhoeddus yn Nhreganna eu gweithredu gan Gyngor Caerdydd, a gallwch barcio am ddim am hyd at ddwy awr rhwng 8yb a 6yh. Wedi hynny, mae ffi safonol o £3 y diwrnod. Gallwch barcio am ddim rhwng 6yh ac 8yb, a drwy’r dydd ar ddydd Sul.

 

Mae rhai llefydd parcio ar Blas y Farchnad, o flaen Chapter. Byddwch yn ofalus wrth barcio yn yr ardal yma, gan fod rhai gofodau’n ymddangos fel petaen nhw’n llefydd parcio, ond maen nhw y tu ôl i linellau dwbl. Mae’r llinellau dwbl yn berthnasol i’r ardal gyfan sydd y tu ôl iddyn nhw, gan gynnwys y pafin, felly os byddwch chi’n eu pasio, byddwch chi’n parcio’n anghyfreithlon ac mae’n bosib y byddwch chi’n cael tocyn parcio.