Cinzia Mutigli
Ffilm, Ysgrifennu, Sain, Perfformiadau a Phrint
Credit: Cinzia Mutigli. Photo - Cinzia Mutigli
Mae Cinzia Mutigli wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac yn gweithio ar draws ffilm, ysgrifennu, sain, perfformio a gwaith creu delweddaeth argraffedig gan gysylltu ei gwaith â hanesion diwylliannol. Mae ei gwaith yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles a’u croestoriad ar lefel bersonol, broffesiynol a chreadigol. Mae’n ystyried fel mae amgylcheddau diwylliannol poblogaidd, cymdeithasol-wleidyddol a domestig yn rhyngweithio i effeithio ar ein persona, ein seicolegau a’n syniad ohonon ni ein hunain.
Ymysg ei phrosiectau diweddar y mae: I’ve Danced at Parties, Survey ll, Jerwood Arts (2021) Sweet Wall, Jupiter Artland, Caeredin (2020); Cheery Like Lorraine Kelly’s Cheery (testun) ar gyfer ON CARE, Ma Biblioteque (2020); My Boring Dreams gyda Kylie, Neneh, Whitney and the Gang ar gyfer Chips & Egg, The Sunday Painter Gallery, Llundain (2019); a Diana Ross Shaped, Cubitt, Llundain (2018).
Yn 2022 enillodd Cinzia Wobr Wakelin, gan Gyfeillion Oriel Glynn Vivian am ei gosodwaith ffilm, Sweet Wall.