Adam Broomberg ac Oliver Chanarin
Divine Violence
9 Gorffennaf – 2 Tachwedd 2014
Oriel Mostyn, Llandudno
Mewn partneriaeth â MOSTYN a Fotografia Europea, ac wedi’i guradu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN, aethom ati i ddatblygu premier y DU o waith newydd Broomberg a Chanarin, sef Divine Violence. Ysbrydolwyd yr arddangosfa hon gan y nodiadau a’r delweddau yr ychwanegodd y dramodydd Bertolt Brecht at ei Feibl personol ei hun, a hefyd fe gloddiodd yr artistiaid yn yr Archif Gwrthdaro Modern, sef y casgliad ffotograffig mwyaf o’i fath yn y byd. Aeth yr arddangosfa ati i godi cwestiynau ynghylch y meini prawf na sonnir amdanynt sydd ar waith wrth greu darluniau gweledol o wrthdaro.
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Yn ystod ymweliad ag archifau Bertolt Brecht yn Berlin, daeth Broomberg a Chanarin ar draws arteffact rhyfeddol, sef Beibl personol Brecht. Daliodd y gwrthrych eu sylw gan fod llun o gar rasio yn sownd ar ei glawr. Y tu mewn i’r tudalennau gwelsant fod y dramodydd o’r Almaen wedi defnyddio ei Feibl fel llyfr nodiadau; roedd wedi gludo lluniau ynddo, tanlinellu ymadroddion a gwneud nodiadau ar yr ochrau. Dyma fu’r ysbrydoliaeth ar gyfer eu Beibl Cysegr-lân darluniadol nhw eu hunain, a gyhoeddwyd gyntaf ganddynt ar ffurf llyfr (cyhoeddwyd gan Mack, 2013) ac a gynhwyswyd wedyn mewn arddangosfa.
Ar gyfer y prosiect hwn, aeth yr artistiaid ati i gyfuno lluniau a gymerwyd o’r Archif Gwrthdaro Modern – yr archif fwyaf yn y byd o luniau rhyfel a gwrthdaro – gydag ymadroddion yn y testun, a danlinellwyd ganddynt ag inc coch. Yn sail i waith yr arddangosfa ceir traethawd byr gan yr athronydd o Israel, Adi Ophir. Yn ei waith llenyddol, mae Ophir yn gwneud y sylw fod Duw yn datgelu ei hun yn y Beibl yn bennaf trwy drychinebau, ac mae’n ystyried bod testun y Beibl yn ddameg am dwf llywodraethu modern. Yn yr arddangosfa hon, am y tro cyntaf mae Broomberg a Chanarin yn cyflwyno’r ddameg hon mewn modd grymus ac eglur.
Ochr yn ochr â Divine Violence arddangoswyd dau waith pwysig arall gan Broomberg a Chanarin, sef Afterlife sy’n edrych o’r newydd ar y ffotograff dadleuol a enillodd Wobr Pulitzer 1979 ond na wyddid pwy oedd yr awdur am y 30 mlynedd wedyn; a The Day Nobody Died (2008), sef cyfres o ffotograffau anffigurol, llawn symud a gynhyrchwyd pan oedd Broomberg a Chanarin wedi’u gosod ar y rheng flaen gydag unedau’r Fyddin Brydeinig yn Nhalaith Helmand yn Affganistan.
I gyd-fynd â’r arddangosfa ar 19 Gorffennaf, cyflwynodd Artes Mundi ail seminar yn y gyfres ‘Dialogues on Conflict’. Gan ddwyn ynghyd artistiaid, academyddion, damcaniaethwyr a diwinyddion, bu Conflict through the Eye of Lens yn trin a thrafod cwestiynau fel: Beth yw’r berthynas rhwng ffotograffiaeth a rhyfel? Sut mae ffotograffwyr ac artistiaid yn portreadu ac yn dehongli gwrthdaro a sut mae’r cyfryngau torfol yn defnyddio ac yn lledaenu’r delweddau hyn? Canolbwyntiodd y trafodaethau ar yr anghytundeb a’r tensiwn o ran awduraeth, cynrychiolaeth ac elfennau cysegredig.