Aurora Trinity Collective
Grŵp a gaiff ei arwain gan artistiaid yw Aurora Trinity Collective, ac mae wedi ymrwymo i greu diwylliant yn llawn cynwysoldeb a chreadigrwydd, lle rhoddir gwerth ar bwysigrwydd caredigrwydd a gofal.

Credit:

Credit:
Mae’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i rannu sgiliau ac arferion yn seiliedig ar decstilau a chelf mewn lle diogel a chadarnhaol. Mae’r grŵp yn cynnwys criw o fenywod, sy’n newid ac yn esblygu’n barhaus – criw sy’n rhannu eu diwylliannau, eu syniadau a’u straeon gyda’i gilydd. Fe wnaethant ddechrau ar eu gwaith yng Nghanolfan y Drindod yng Nghaerdydd ac maent yn dal i fod yn rhan bwysig o’r lle.
Dechreuodd Artes Mundi ac Aurora Trinity Collective weithio gyda’i gilydd yn 2018 ochr yn ochr ag Artes Mundi 8.
Yng ngwanwyn 2020, fe wnaeth y gwaith creadigol rhwng Aelodau Aurora Trinity Collective ac Artes Mundi ddechrau esblygu, gan fynd ati i archwilio ffyrdd o ymwreiddio gofal a rhannu penderfyniadau yn eu perthynas. Buont yn cyfarfod ar-lein yn rheolaidd i gynnal sesiynau a thrafodaethau. Drwy gydol y flwyddyn dechreuodd eu sgyrsiau ystyried ffyrdd y gallai Artes Mundi gynnig cymorth ymarferol a chreadigol i’r grŵp yn ei gyfanrwydd ac i’r aelodau unigol.
Aelodau’r grŵp sy’n penderfynu ar y sgiliau y byddant yn eu rhannu gyda’i gilydd, felly mae hynny’n golygu nad oes yr un diwrnod byth yr un fath. Mae eu gwaith bob amser yn angenrheidiol ac yn gysylltiedig â’u profiadau eu hunain. Un wythnos, byddant yn gwneud masgiau wyneb amddiffynnol ar eu cyfer nhw eu hunain a’u teuluoedd; a’r wythnos wedyn, byddant yn rhannu ryseitiau maen nhw’n eu hoffi, ac yn eu coginio gyda’i gilydd. O dro i dro, byddant yn dysgu sut i wnïo, crosio neu wau, ac weithiau byddant yn dysgu sut i dylino’r wyneb fel ffordd o roi hunanofal.
“Roedd yn benwythnos mor hyfryd, rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn ein bod ni wedi bod yno yn eich cwmni chi. Yr hyn y byddwn ni’n ei gofio yw’r atgofion hyfryd, y sgyrsiau, y canu, y gwenu a’r chwerthin.” – Nasima Begum, aelod o grŵp llywio Aurora Trinity Collective
Please click images to enlarge
Bydysawd

Dros yr haf, treulion ni lawer o amser gyda’n ffrindiau yng nghylch chwarae Cyngor Ffoaduriaid Cymru, fel rhan o Brosiect Aurora Phenomenon sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth ag Aurora Trinity Collective a’r Artist Sefydlu Helen Clifford, Canolfan y Drindod, ac Artes Mundi.
Gyda’n gilydd fe wnaethom greu ffilm fer newydd gyda’r artistiaid ifanc a dreuliodd eu haf gyda ni i gyd.
Roedd gwneud y ffilm hon yn ymwneud ag arbrofi, dysgu, rhannu syniadau a llawenydd.
Y Glanhawr Pibell Hiraf: 29 metr a 7 centimetr

Mae’r ffilm hon, ‘Y Glanhawr Pibell Hiraf: 29 metr a 7 centimetr’ a wnaed gan Abdurrahman, Kazim, Mohammad, Saeed Wedaal a Salahuddeen yn ystod gweithdy. Daeth yr artistiaid at ei gilydd i wneud hyn yn ystod gweithdy Collage a arweiniwyd gan Nasima Begum.
Digwyddodd y weithred ddigymell hon o greu celf gydweithredol fel rhan o brosiect Ffenomen Aurora.