Bedwyr Williams
Traw
4 Awst 2012
Porth Coffa Gogledd Cymru, Bangor
DIFFODD Y GOLEUADAU, rhan o 14-18 NOW
Gan gydweithio gydag Artes Mundi, cyflwynodd 14-18 NOW, y rhaglen ddiwylliannol ar gyfer Dathliadau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, waith celfyddydol awyr agored o bwys gan Bedwyr Williams, o’r enw Traw. Ar 4 Awst 2014, gwahoddwyd trigolion y Deyrnas Unedig i gymryd rhan yn DIFFODD Y GOLEUADAU trwy fynd ati i ddiffodd eu goleuadau rhwng 10pm-11pm, gan adael un golau neu un gannwyll ynghyn er mwyn rhannu myfyrdodau.
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Credit:
Fe wnaeth mwy nag 16 miliwn o bobl o amgylch y wlad gofio canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, boed hynny ym mhreifatrwydd eu cartrefi eu hunain neu yn un o blith llu o ddigwyddiadau cymunedol a gynhaliwyd trwy’r wlad. Diffoddodd mwy na 1,000 o awdurdodau lleol, adeiladau eiconig, sefydliadau cenedlaethol (yn cynnwys y BBC a’r Lleng Brydeinig Frenhinol), cynghorau plwyf a mannau addoli eu holl oleuadau, ar wahân i un, fel ffordd o gofio’r achlysur.
Fel rhan o’r digwyddiad anhygoel hwn, fe wnaeth 14-18 NOW gomisiynu pedwar o artistiaid rhyngwladol – sef Bedwyr Williams, Bob a Roberta Smith, Nalini Malani a Ryoji Ikeda – i greu gweithiau celf cyhoeddus ar gyfer Bangor, Belfast, Caeredin a Llundain, sef gweithiau a oedd yn ymateb i’r syniad o weld un golau’n parhau i ddisgleirio trwy’r tywyllwch.
Cafodd gosodiad fideo a sain graddfa fawr Williams ei gyflwyno ar safle Porth Coffa Gogledd Cymru, Bangor, lle ceir enwau mwy na 8,500 o filwyr, morwyr ac awyrenwyr o siroedd Gogledd Cymru, a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Porth Coffa yn y canol o flaen delweddau a dafluniwyd oddi ar y Porth ar wal enfawr Canolfan Pontio gyferbyn (sef Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor), gan greu cysylltiad rhwng aberthau’r gorffennol a gobeithion y dyfodol.
‘Ergyd’ yw ystyr y gair ‘Traw’ yn y cyswllt hwn. Mae trac sain atseiniol, sy’n canolbwyntio ar sŵn tician cloc wedi’i arafu, yn sylfaenol i’r gwaith, a’r bwriad oedd y dylid teimlo’r sŵn, yn ogystal â’i glywed, ar draws y ddinas. Gan ddefnyddio lluniau y daethpwyd o hyd iddynt yn archif Cymru 1914, creodd Williams ddilyniant o ddelweddau o bersonél lleol – rhai milwrol a sifil – a brofodd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf. Heb gynnwys unrhyw lifrai na chyfeiriadau at reng, gwelwyd wynebau ar ffurf delweddau wedi’u tocio, ochr yn ochr â’r trac sain, gan ddadlennu rhywfaint o bersonoliaeth yr unigolion a’u haberth personol mewn rhyfel lle mesurwyd marwolaethau mewn miliynau.
Ar gyfer 14-18 NOW ymestynnodd Williams ei waith ymchwil fel artist preswyl yn Pontio, sef canolfan celfyddydau ac arloesi newydd o bwys a adeiladwyd gan Brifysgol Bangor, a gweithiodd yn agos gydag archif Cymru 1914, sy’n mynd i’r afael â phrosiect mawr i ddigideiddio ffynonellau sylfaenol yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Lyfrgelloedd, Casgliadau Arbennig ac Archifau Cymru. Bydd yr archif ddigidol hon yn dwyn ynghyd ddeunyddiau a oedd gynt yn dameidiog ac yn anodd cael gafael arnynt, yn cynnwys papurau newydd, llawysgrifau, ffotograffau, dyddiaduron, recordiadau sain a chyfweliadau.