Creadigrwydd yw Camgymeriadau

Credit: Sam Metz and Eliffant, ‘Sense Us’, Creativity is Mistakes, Mostyn 2022

Mae Creadigrwydd yw Camgymeriadau yn brosiect cydweithredol rhwng artistiaid anabl a sefydliadau celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar leisiau, doniau a phrofiadau uniongyrchol artistiaid gweledol anabl, Byddar a niwrowahanol wrth ddatblygu modelau arloesol ar gyfer mynediad ar y cyd yn y celfyddydau gweledol.

 

Mae Artes Mundi yn falch o weithio gyda Creadigrwydd yw Camgymeriadau, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru/‘Cysylltu a Ffynnu’ y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, g39 a Mostyn, gydag arbenigedd ychwanegol gan y mudiad o Fanceinion, Venture Arts.

 

Yn dilyn gwaith gyda’r grŵp cyntaf o 6 artist, ym mis Ionawr 2023, ar gyfer yr ail garfan, fe wnaeth Creadigrwydd yw Camgymeriadau wahodd 15 o artistiaid anabl, Byddar a niwrowahanol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i gydweithio â’r sefydliadau partner i gyfrannu at ymchwil i’r weithred o wreiddio hygyrchedd i artistiaid a gweithwyr celfyddydau proffesiynol mewn sefydliadau yng Nghymru.

 

Mae hyn yn cynnwys gweithdai, cyfleoedd datblygiad proffesiynol, mentora artistiaid un-i-un, ymchwil a digwyddiadau cyhoeddus.

 

Nod y prosiect yw:

 

  • Datblygu ffyrdd newydd i artistiaid a sefydliadau wreiddio mynediad bwriadol yn eu gwaith celf a’u rhaglenni mewn ffyrdd ystyrlon, gan wneud y Celfyddydau Gweledol yng Nghymru yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl;
  • Creu cyfleoedd i sicrhau bod artistiaid, curaduron ac ymarferwyr creadigol anabl, Byddar a niwrowahanol yn cael eu grymuso, eu hyrwyddo a’u cynnwys yn y sector Celfyddydau Gweledol;
  • Rhannu canfyddiadau’r prosiect drwy ‘becyn cymorth mynediad i’r Celfyddydau Gweledol’ a fydd ar gael yn rhad ac am ddim ddiwedd 2023.