Fernando García-Dory

Amgueddfa Laeth

22 September 2012 - 6 January 2013

Oriel Mostyn, Llandudno

Fel rhan o Artes Mundi 5 gwahoddwyd yr artist, actifydd ac agroecolegydd Sbaeneg, Fernando García-Dory, i wireddu prosiect yn MOSTYN oedd yn adlewyrchu ac yn adleisio gwaith Radovan Kraguly.

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Gyda’i ymarfer yn cwmpasu prosiectau cymdeithasol-amaethyddol gwledig mae García-Dory wedi cymryd rhan flaenllaw yn curadu Kraguly’s Y Llwybr Llaethog a drwy ddewis gofalus o ddarnau allweddol gan Kraguly o’r deugain mlynedd diwethaf mae wedi creu deialog a thrafodaeth artistig rhwng dwy genhedlaeth, yn arsylwi ar rôl yr artist fel sylwebydd a cyfathrebwr, actifydd ac archifydd, cyflwynydd a chynhyrchydd.

Mae arddangosfa García-Dory ei hun yn MOSTYN yn adlewyrchu’r cyflwr hwn gan gysylltu ei arfer ei hun gyda un Kraguly trwy benderfyniad i ail-greu ac adfer rhai agweddau ar waith Kraguly.

 

Yng ngeiriau García-Dory: “Mae’r weithred o atgynhyrchu gwaith blaenorol sy’n bod yn barod yn ddatganaid ynddo’i hun, yn rhoi’r gorau i feirniadaeth a chanolbwyntio sylw ar waith artist arall. Mae gweledigaeth dwfn a byd dychmygol Kraguly yn troi’n gyfrwng i mi feithrin myfyrdod, astudrwydd ac empathi. Trwy gael gwared o’m holl syniadau a chefnu ar y galw i greu ffurf newydd, gall yr artist sy’n ail-greu ganolbwyntio ar y weithred awtomatig ei hun. I mi mae’n gyfle gwych i archwilio’r syniad o’r math o artist yw Kraguly – yn ymroddedig i arbrofi gyda deunyddiau a ffurfiau ail-adroddus – ac hefyd i bonito gyda syniadaeth arall, fod celf yn fodd i gysyniadau neu gymell syniad, gan adlewyrchu ar ieithwedd celf ei hun. Mae’r darnau wedi’u hail-greu, neu, y defnydd o gelfyddyd a strategaethau diwylliannol megis yr amgueddfa laeth a’i raglen gyhoeddus, i fod yn fodd i ysgogi grŵp cymdeithasol penodol a hyrwyddo newid. Gall yr ymwelydd i’r stafelloedd hyn ddilyn llinell di- doredig, lle mae awdur y gwaith yn aneglur; gan adolygu’r ffyrdd mae celf gyfoes yn cael ei wneud a’i brofi.”

Mae Darn wedi’i ail-greu #1 yn atgynhyrchu astudiaeth a gollwyd ar gyfer gosodwaith o’r enw “Processus” gafodd ei arddangos yn oriel Chapter, Caerdydd yn 1997 tra bod Darn wedi’i ail-greu #3 yn cynnig ychwanegiad libretto i ddawns-berffomiad a ddyfeisiwyd gan Kraguly yn 1988, ac sydd i’w ail-greu ar gyfer MOSTYN yn 2012.

Mae Darn wedi’i ail-greu #2 yn cyflwyno sgwrs a gofnodwyd rhwng García-Dory a Kraguly, gynhaliwyd mewn gweithdy yng Nglynllifon lle mae Kraguly yn sgwrsio am ei awydd i ddylunio a gwireddu Amgueddfa Laeth Genedlaethol. Mae’r sgwrs hon, ailgread o sgwrs flaenorol gafwyd yn stiwdio Kraguly ym Mharis ym mis Awst 2012, yn canolbwyntio ar sut mae Kraguly yn rhagweld y prosiect yn datblygu yn y dyfodol a sut y gwêl yr Amgueddfa Llaeth nid yn unig fel adeilad ond fel cyfanrwydd pensaernïol-cerfluniol sy’n cyfuno ffermio, celf, gwyddoniaeth, addysg a hyfforddiant.

Drwy droi diddordeb Kraguly yn arf defnyddiol ar gyfer siapio ymyriad artistig mae García-Dory wedi adeiladu model, Darn wedi’i ail-greu #4, fel llwyfan i wneud y diwylliant ffermio llaeth a chynhyrchu amaethyddol yn yr ardal hon o ogledd Cymru yn weladwy. Mae’r adeiledd dros-dro yn gweithredu fel amgueddfa o fewn yr oriel, wedi’i churadu gyda detholiad o wrthrychau, testunau, a ffotograffau ar fenthyg gan ffermwyr llaeth lleol. O lun gwerthfawr aelod o’r teulu yn dathlu llwyddiant Clwb Ffermwyr Ifanc yn y 1950au at y dadansoddiad cyfrifiadurol o gynnyrch llaeth buwch unigol sy’n dod fwyfwy’n rhan annatod o ffermio modern heddiw, mae’r eitemau yn rhoi cipolwg o fyd sy’n anweledig i’r rhan fwyaf ohonom, ond sy’n cyffwrdd bywydau pob un ohonom wrth i ni brynu llaeth o’r siop neu’r archfarchnad leol.

Mae’r Amgueddfa Laeth hefyd yn gatalydd ar gyfer trafodaeth a llwyfan i wahodd Clybiau Ffermwyr Ifanc lleol i sefydlu eu Sianel Laeth Teledu eu hunain fuasai’n caniatáu deialog barhaus rhwng y gymuned amaeth a phontio cyfathrebu gyda’r cyhoedd. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at ddangos i’r gymuned amaethyddol gall celfyddyd fod yn rym defnyddiol i ddangos nad yw ffermio am gynhyrchu bwyd, yr amgylchedd a’r tirwedd yn unig, ond hefyd yn ymwneud â chynhyrchu a gwarchodaeth diwylliant. Drwy annog cyfranogiad cymdeithasol a grymuso mae García-Dory yn tynnu ar hanfod gwaith Kraguly – mesuredd, sylwgarwch, ymroddiad, meithrin a thŵf – elfennau sy’n parhau’n ganolog i hwsmonaeth dda a chymuned ffermio fywiog.