Gŵyl Y Llais 2016 a Artes Mundi

Speech Against Itself

Lawrence Abu Hamdan

Roedd Speech against itself yn waith newydd a gyd-gomisiynwyd gan yr artist o Beirut, Lawrence Abu Hamdan.  Mae’r gwaith yn cynnwys trydydd rhan, a’r olaf, o drioleg Aural Contract Lawrence Abu Hamdan.

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Yn y gwaith hwn, mae Abu Hamdan yn ceisio archwilio’r ffyrdd o warchod ein hawl i dawelwch yn ein cymdeithas ni heddiw, sy’n clywed ac yn siarad am bopeth. Yn ei ailarfarniad o dawelwch a’i wleidyddiaeth bydd Abu Hamdan yn edrych ar ieitheg Taqiyya, hen ddarn o gyfreitheg Islamaidd sy’n cael ei harfer gan leiafrifoedd esoterig yn unig sy’n caniatáu i unigolyn sy’n credu wadu ei ffydd neu gyflawni gweithredoedd sy’n anghyfreithlon fel arall pan maen nhw mewn perygl o gael eu herlid neu mewn cyflwr o ddiffyg dinasyddiaeth. Drwy edrych ar straeon o dröedigaethau torfol honedig y lleiafrif Druze yng ngogledd Syria, mae Abu Hamdan yn dangos sut y gall mân weithredoedd siarad o’r fath ein helpu i ailarfarnu manwl gywirdeb siarad, y ffyrdd niferus o gadw’n dawel a natur anffyddlon hanfodol ein lleisiau.

 

Perfformiwyd gwaith newydd Abu Hamdan, Speech against itself, yng Ngŵyl y Llais fel traethawd sain byw, gan ddefnyddio cyfres o driniaethau sonig a samplau wedi’u recordio ymlaen llaw a oedd wedi’u cynllunio i gwestiynu’r ffyrdd sylfaenol rydym yn siarad, yn gwrando ac yn cael ein clywed heddiw.

 

Gŵyl y Llais oedd y dathliad mawr cyntaf o’r llais yn ei holl ffurfiau yn y DU. Fe’i cynhaliwyd mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2016 gydag artistiaid lleol, cenedlaethol a byd-eang yn perfformio.


Seeing Voices

Woman's Hour

Mae’r band llwyddiannus o Brydain, Woman’s Hour, yn cychwyn ar daith o leoliadau celfyddydol y DU, gan gyflwyno eu perfformiad byw newydd, Seeing Voices, sy’n rhoi lle canolog i Iaith Arwyddion Prydain.

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Yn 2014, rhyddhaodd Woman’s Hour y gân Her Ghost. Roedd y fideo i gyd-fynd â’r gân yn cynnwys actor byddar ifanc yn perfformio’r geiriau yn Iaith Arwyddion Prydain. Disgrifiodd The British Journal of Photography y fideo fel “rich and glowing, fluent and immediate”. Yn sgil hynny datblygodd y band y syniad i fod yn berfformiad byw i’w roi ar daith.

 

Mae Seeing Voices yn cynnwys tafluniad fideo a gomisiynwyd yn arbennig gan yr artistiaid Adam Broomberg ac Oliver Chanarin, gan ddefnyddio deunydd na welwyd o’r blaen o archifau Cymdeithas Byddar Prydain.

 

Gŵyl y Llais oedd y dathliad mawr cyntaf o’r llais yn ei holl ffurfiau yn y DU. Fe’i cynhaliwyd mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2016 gydag artistiaid lleol, cenedlaethol a byd-eang yn perfformio.