It's Art But It's Not

2015-2018

Porth, Penygraig a Trebanog

Cynhaliwyd prosiect It’s art but it’s not rhwng 2015-2018, gydag artistiaid yn datblygu gwaith gyda chymunedau a phobl ifanc Porth, Pen-y-graig a Threbanog. Roedd y prosiect yn edrych ar adfywio llefydd ffisegol a chymdeithasol, drwy ddull cyfranogol dan arweiniad artist, yn cael ei arwain gan gohort o artistiaid rhyngwladol a lleol yn cynnwys Rabab Ghazoul, Owen Griffiths gyda Nils Norman, Lucy + Jorge Orta ac Anne Culverhouse Evans.

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Credit:

Bu Artes Mundi yn gweithio mewn partneriaeth â Valleys Kids: sefydliad datblygu a chelfyddydau cymunedol sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymoedd y De am dros 40 mlynedd, a Trivallis (RCT Homes gynt) sef y prif ddarparwr tai cymdeithasol yn yr ardal.

 

Yn ogystal â’r prif artistiaid, mae llawer o artistiaid eraill wedi bod yn rhan o’r prosiect fel ymwelwyr, ffrindiau beirniadol a thrwy gomisiynau llai o fewn y prosiect cyffredinol.

 

Roedd It’s Art But It’s Not yn un o saith prosiect adfywio arloesol fel rhan o fenter Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymunedau Cyfoes, cynllun adfywio celf cyhoeddus mawr gwerth £2.5 miliwn.