N.S. Harsha
ᖷacing
7 July - 9 September 2018
Oriel Glynn Vivian, Abertawe
Cynhelir ‘ᖷACING’ mewn sawl gofod ar draws Glynn Vivian yn Abertawe a dyma’r sioe fwyaf i’w chymryd drosodd ers ei hailwampio a’i hailagor yn 2016.

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea
Mae’r arddangosfa bartneriaeth bwysig hon yn cynnwys tri gwaith craidd – gosodwaith newydd Feel Free to Feed Each Other, Reclaiming the Inner Space sy’n cael ei arddangos yn y DU am y tro cyntaf a’r gwaith arloesol cynharach Stargazers. Yn ogystal â’r gweithiau hyn, bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys sawl paentiad arall ar y wal a’r llawr, cerfluniau diweddar a’r adluniad o The Future, gweithdy cydweithredol gyda phlant a phobl ifainc leol lle y’u gwahoddir i ddychmygu eu dyfodol drwy addurno crysau enfawr y byddant wedyn, mewn theori, yn tyfu’n ddigon mawr i’w gwisgo. Yna, bydd y crysau ar ddangos fel rhan o’r arddangosfa.
Yn un o artistiaid Indiaidd pwysicaf ei genhedlaeth, mae gwaith amrywiol Harsha yn cynnwys paentiadau, gweithiau ar bapur, gweithiau i’r wal a’r llawr, cerfluniau a gosodweithiau a phrosiectau cyhoeddus safle-benodol; fe’i hysbrydolir gan draddodiadau paentio’r India a’r Gorllewin. Mae ei waith yn ymwneud â’r berthynas rhwng y lleol a’r byd-eang, gan ddwyn at ei gilydd fanylion o’i fywyd beunyddiol yn India a digwyddiadau’r byd. Drwy ei weithiau amlddisgyblaethol, mae’n tynnu ein sylw at y chwareus a’r gwirion, y personol a’r gwleidyddol, gan ystyried y ffyrdd aneirif y mae ecosystemau lleol bregus yn annatod gysylltiedig â phrynwriaeth dorfol fyd-eang a systemau gwybodaeth, cred a grym a sut mae’r rhain yn effeithio arnynt.
Yn ᖷACING (2018), mae’r artist wedi defnyddio deunyddiau ffitiadau siop o ffynonellau lleol i greu gosodwaith ar raddfa fawr yn atriwm yr oriel sy’n cael ei boblogi gan ei gerfluniau arbennig o fwncïod Tamasha a’i baentiadau hynod gain. Mae’r gwaith yn cynnwys cyfeiriadau at ddirywiad Stryd Fawr Abertawe wrth dynnu cymariaethau rhwng Abertawe a Mysore, Cymru ac India a natur fregus y ddwy economi ac ecosystem leol. Yn ystod ei ymweliad safle ag Abertawe, trawyd Harsha gan nifer y siopau a fu unwaith yn brysur ac sydd bellach yn wag heblaw am y ffitiadau a silffoedd generig, golygfa gyffredin ar y stryd fawr ar draws y DU. Mae Reclaiming the Inner Space (2017), a fu ar ddangos am y tro cyntaf ym Miennale Sydney eleni, yn darlunio haid fudol o eliffantod pren wedi’u cerfio â llaw ar grwydr ar draws gwastatir a wneir o eitemau cardbord domestig wedi’u hailgylchu ac yn Stargazers (2010), mae’r llawr wedi’i orchuddio gan fôr o wynebau dynol yn syllu’n ddiwyro tua’r awyr. Pan fydd y gwyliwr yn edrych i fyny i’r un cyfeiriad, mae’n ymuno â’r holl sêr-dremwyr ac yn cael ei wahodd i fyfyrio ar ei le yn y cosmos.
Gan edrych ar y ffordd y gall ffenomena byd-eang gael eu holrhain i ennyd leol, mae gosodweithiau Harsha yn newid am yn ail rhwng sefyllfaoedd macro- a microcosmig i ymdrin â moderneiddio cyflym, masgynhyrchu a phrynwriaeth neu
consumeraj – term a fathwyd gan yr artist i gyfeirio at effaith gymdeithasol a sefydliadol Raj Prydain ar gymdeithas yr India – yn ogystal â’n perthynas newidiol â natur.
Wedi’i eni ym 1969 mae N.S. Harsha yn byw ac yn gweithio yn Mysore yn ne India. Mae ei waith wedi’i arddangos yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd mawr a sawl biennale fel Biennale Sydney (2018), Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo (2017), Biennale Kochi-Muziris (India, 2014); Biennale Celf Gyfoes Moscow (2013); Triennale Yokohama (2011) a Biennale de São Paulo (Brasil, 2010). Harsha oedd enillydd Artes Mundi 3 (2008) ac mae’r prosiect yma’n ffurfio un o gyfres o brosiectau partneriaeth sydd ar y gweill ac sy’n cynnwys gwaith alumni Artes Mundi gydag orielau a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru.
Rhan o gyd-fenter India Cymru rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig Cefnogwyd yn hael gan Mollart Engineering Cyf