Cwestiynau ac atebion i’ch helpu gyda’r Enwebiadau AM10

Ydw i’n gymwys i enwebu rhywun?
Gwahoddir unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn neu sydd ynghlwm â’r celfyddydau gweledol i enwebu rhywun.

 


Pa fath o artist galla i ei enwebu?
Mae unrhyw artist sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng o fewn cyd-destun celfyddyd gyfoes yn gymwys.

 

 

Oes unrhyw feini prawf ar gyfer enwebu?
Dylid ystyried pob artist o dan y thema fras, “Y Cyflwr Dynol”. Mae gynnon ni ddiddordeb yn y rheini y mae eu gwaith yn mynegi eu perthynas â honno mewn amryw o ffyrdd: o’r barddol i’r rhethregol; o’r swrrealaidd i’r dychanol. Gallent ymdrin â themâu amserol fel strwythurau grym a llywodraeth, cynrychiolaeth, globaleiddio a phrynwriaeth, trefoli a chynhyrchu bwyd, materion rhywedd, amgylcheddaeth a newid ecolegol, ond hefyd materion tra phersonol fel ffyrdd cyfredol o fyw, galar, colled a phryderon am y dyfodol.

 

 

A yw hyn yn golygu artistiaid sefydledig yn unig neu a allant fod yn rhai sy’n dod i’r amlwg?
Gall artistiaid fod naill ai’n sefydledig neu’n rhai sy’n dod i’r amlwg ond dylent fod yn adnabyddus yn y wlad lle maent yn gweithio a lle mae eu henw rhyngwladol wedi’i sefydlu neu’n datblygu.

 

 

Ga i enwebu artist sydd wedi bod ar y rhestr fer o’r blaen?
Cewch.

 

 

A gaiff yr artist sydd wedi’i enwebu fod o unrhyw oedran?
Nid oes unrhyw gyfyngiad o ran oedran.

 

 

Ga i enwebu mwy nag un artist?
Cewch. Mae dolen ar dudalen gyflwyno’r ffurflen enwebu a fydd yn mynd â chi at ddechrau ffurflen newydd.

 

 

Ga i enwebu’r un artist fwy nag unwaith?
Nid oes angen oherwydd bod y dethol yn seiliedig ar y meini prawf ac nid ar nifer yr enwebiadau.

 

 

Beth os nad oes gan yr artist dw i’n ei enwebu ei wefan ei hun?
Os nad oes gan yr artist wefan, syniad da yw cynnwys unrhyw wefan sy’n dangos ei (g)waith.

 

 

Fyddwch yn fy hysbysu os bydd artist/artistiaid a enwebir gen i ar y rhestr fer?
Anfonir e-bost i’ch hysbysu os yw’r artist(iaid) a enwebir gynnoch chi wedi cyrraedd y rhestr fer.

 

 

Pam mae rhaid i mi ddweud wrthoch chi beth yw fy ngwlad breswyl?
Mae gynnon ni ddiddordeb i wybod o ba rannau o’r byd y mae enwebiadau’n cael eu derbyn gan ei bod yn ein helpu i werthuso cyrhaeddiad Artes Mundi.

 

 

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi enwebu rhywun?
Bydd yr holl enwebiadau’n cael eu coladu a’u dosbarthu i’r rheithgor. Dros gyfres o gyfarfodydd ag Artes Mundi, adolygir yr enwebiadau yn erbyn y meini prawf, paratoir rhestr hir ac eir â’r rhestr hon ymhellach er mwyn pennu’r detholion ar y rhestr fer ar gyfer AM10.