Cyfnod Cyffrous i Enillydd Gwobr Artes Mundi 7, Syr John Akomfrah

Yn gynharach y mis hwn, cafodd Syr John Akomfrah ei urddo’n farchog yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i’r Celfyddydau. I ychwanegu at y gydnabyddiaeth enfawr hon, yr wythnos hon, cyhoeddwyd y bydd Akomfrah yn cynrychioli Prydain yn y Biennale yn Fenis yn 2024.

 

Akomfrah oedd enillydd gwobr Artes Mundi 7 yn 2017 lle cyflwynodd ei ffilm diptych, Auto da Fé (2016) sy’n defnyddio estheteg drama gyfnod i ystyried achosion hanesyddol a chyfoes ymfudo, gan ganolbwyntio ar erledigaeth grefyddol fel un o brif achosion dadleoli byd-eang.

 

Mae Akomfrah, a aned yn Ghana, yn ffigwr arloesol ym maes Sinema Du Prydain ac yn rhagflaenydd mewn sinematograffi digidol. Ers 30 o flynyddoedd, mae’r artist, y cyfarwyddwr, yr awdur a’r damcaniaethwr wedi bod yn tynnu sylw at waddol y bobl o Affrica sydd ar wasgar yn Ewrop drwy greu ffilmiau sy’n archwilio hanesion ymylol cymdeithas Ewropeaidd. Ystyrir mai ei gorff gwaith ef yw un o’r rhai mwyaf nodedig ac arloesol ym Mhrydain gyfoes.

 

Wrth dderbyn comisiwn y Biennale yn Fenis, dywedodd Akomfrah, “Rwy’n ddiolchgar am gael cyfle i archwilio hanes ac arwyddocâd cymhleth y sefydliad hwn [y Pafiliwn Prydeinig] a’r genedl y mae’n ei chynrychioli, yn ogystal â’i gartref pensaernïol yn Fenis, gyda’r holl storïau y mae wedi’u hadrodd ac y bydd yn parhau i’w hadrodd.”

 

Hoffai pob un ohonom yn Artes Mundi longyfarch John yn wresog am y gydnabyddiaeth amserol hon o ansawdd a gwaddol ei waith ar flaen y gad yn gwneud ffilmiau.

 

Y llynedd, bu Sonia Boyce yn cynrychioli Prydain yn y 59fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia ac enillodd wobr Golden Lion am ei gwaith Feeling Her Way.