Cyhoeddi Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams 2021

Prabhakar Pachpute yw derbynnydd Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams ar gyfer 2021.

Credit:

Yn ei waith, mae Pachpute yn defnyddio eiconograffi protestio a gweithredu. Mae’n creu iaith weledol sy’n tynnu sylw at broblemau systemau economaidd byd-eang, yn cynnwys amodau gwaith, mwyngloddio diddiwedd, datblygiad cymdeithasol anghyfartal, a gwleidyddiaeth tir. Mae ei ffigurau hybrid wedi’i darlunio o fewn tirwedd apocalyptaidd, wrth i ddiwydiant a llafur eu boddi.

 

Cafodd Rattling Knot (2020) a The Close Observer (2020) eu dewis ar gyfer y wobr. Gyda’i gilydd, mae’r gweithiau hyn yn rhan o gyflwyniad Pachpute yn Artes Mundi 9, sy’n tynnu sylw at gysylltiadau treftadaeth ddiwylliannol cymunedau glofaol yng Nghymru a’r byd, gan gynnwys hanes teulu Pachpute ei hun, fu’n gweithio ym mhyllau glo canolbarth India am dair cenhedlaeth.

 

Mae gwaith Pachpute wedi’i arddangos ar draws y byd, o São Paulo i Istanbul, o Barcelona i Brisbane, ond dyma’r tro cyntaf i ddarn o waith gan yr artist o India gael ei brynu gan amgueddfa neu sefydliad yn y DU. Mae hefyd yn garreg filltir arwyddocaol wrth ddatblygu casgliad celf gyfoes o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghymru gan Artes Mundi mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.