Cynthia MaiWa Sitei
Curadur a Ffotograffydd
Credit: Cynthia MaiWa Sitei. Photo - Clare Sitei
Mae Cynthia MaiWa Sitei yn guradur ac yn ffotograffydd dogfennol Prydeinig sy’n hanu o Kenya ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Fel curadur yn Ffotogallery, bu’n cyfranogi mewn nifer o brosiectau gan gynnwys curadu dwy arddangosfa grŵp a oedd yn arddangos gwaith gweledol eithriadol sy’n procio’r meddwl gan artistiaid Affricanaidd. Fel artist ei hun, mae ei gwaith yn integreiddio ffotograffiaeth a thestun, ac yn archwilio themâu fel stereoteipiau, rhagfarn, a gwahaniaethu. Cred Cynthia, er mwyn ehangu’r sector, fod angen inni gynnwys lleisiau newydd a gwahanol er mwyn cyflwyno safbwyntiau newydd sy’n herio ac yn cwestiynu.