Daniel Trivedy
Artist Held/Space

Credit: Daniel Trivedy - Head Shot
Mae Daniel yn artist amlddisgyblaethol o dras Indiaidd sydd wedi’i leoli ar gyrion Abertawe.
Mae’n defnyddio celf fel dull o ymholi ac ymchwilio. Mae ei ddull gweithio yn cynnwys proses o ymchwilio, myfyrio a chwarae materol.
Mae’r dylanwadau yn ei waith yn cynnwys damcaniaeth feirniadol, mudo a gwladychiaeth wedi’u hategu gan feddyliau’n ymwneud â hunaniaeth bersonol a hanes teuluol. Dros amser, mae nifer o linynnau sgwrs amrywiol sy’n mynd i’r afael â themâu cysylltiad, perthyn a chynhwysiant wedi amlygu eu hunain.
Yn y bôn, mae ganddo ddiddordeb yn y glud seicolegol sy’n ein dal ni at ein gilydd.