Berni Searle

Bywgraffiad

Mae Berni Searle yn fwyaf enwog am gynhyrchu gosodweithiau fideo digidol a gosodweithiau cyfryngau seiliedig ar lens. Gellir ystyried ei gweithiau “perfformiadol” fel cyfres o ymchwiliadau parhaus yn ymwneud â hunangynrychiolaeth, hunaniaeth bersonol a hunaniaeth gyfunol. Ei gwaith, Eira Wen/Snow White (2001) oedd y darn cyntaf a brynwyd trwy gyfrwng Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Credit:

Cafodd Eira Wen/Snow White, sef fideo cyntaf yr artist, ei gynhyrchu ar gyfer Biennale Fenis 2001 fel rhan o arddangosfa Authentic/Ex-centric artistiaid cysyniadol o Affrica. Yn y fideo, mae strategaeth gweledigrwydd/anweledigrwydd Searle yn dangos ei hymdrech hi/ein hymdrech ni i sicrhau hunaniaeth, gan newid yn barhaus, a hofran rhwng ‘ymddangos’ a ‘diflannu’. Yn ôl disgrifiad Liese van der Watt yn y testun ‘Act Ddiflannu’: “Gan daflunio’r fideo ar ddwy sgrin a’i ffilmio o wahanol onglau, gwelwn Searle yn penlinio mewn pwll o olau, ac mae’n anodd iawn gwahaniaethu rhyngddi â’r llawr a’r cefndir du. Gwelwn flawd gwyn yn syrthio oddi fry – yn dawel, fel yr eira cyntaf – gan ddod â’i chorff i ffocws yn raddol, a chan ei ddiffinio ac yna adeiladu ar y ffurf honno. Yn y pen draw, mae Searle yn hawlio’i chorff yn ôl trwy rwbio’r blawd oddi arni a’i daflu ar y llawr; ac yna, yn swnllyd ac yn ddefodaidd, mae’n defnyddio’r blawd i wneud toes, a hithau’n wlyb bellach gan y dŵr a glywn yn diferu oddi fry.”

Ganed Searle yn Cape Town, De Affrica, ym 1964. Mae wedi arddangos ei gwaith yn 2il Biennale Johannesburg, yn 7fed Biennale Cairo, yn DakArt, yn Authentic/Ex-centric yn 49ain Biennale Fenis, a hefyd mewn lleoliadau o amgylch Unol Daleithiau America, yr Almaen, Sbaen a’r Eidal.


Oriel

Please click images to enlarge