Eija-Liisa Ahtila

Bywgraffiad

Yn ogystal ag ennill Gwobr Artes Mundi 2 yn 2006, cafodd gwaith fideo pedair sianel Eija-Liisa Ahtila, artist o’r Ffindir – sef gwaith sy’n dwyn y teitl Awr Gweddi/The Hour of Prayer (2005) – ei brynu ar gyfer casgliad cyfoes Amgueddfa Cymru fel enillydd Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams. Ac yntau wedi’i seilio ar ei bywyd ei hun, mae’r gwaith yn adrodd hanes marwolaeth mewn tŷ a’r broses o ddelio â’r galar trwy gyfrwng dilyniant o ddigwyddiadau sy’n cychwyn yn Efrog Newydd yn ystod storm aeafol ym mis Ionawr ac yn gorffen yn Benin, Gorllewin Affrica, un mis ar ddeg yn ddiweddarach.

Credit: Eija-Liisa Ahtila

Mae Ahtila wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd celf rhyngwladol, fel Manifesta (1998), Biennale Fenis (2005 ac 1999), Documenta 11 (2002), Biennale Celf São Paulo (2008) a Biennale Sydney (yn 2002 a 2018). Yn ogystal â Gwobr Artes Mundi, mae wedi ennill llu o wobrau celf a ffilm, yn cynnwys Gwobr Vincent (2000 – sef y wobr gyntaf o’i bath), Medal y Tywysog Eugen (2008), ac yn fwyaf diweddar y wobr Art Academic yn y Ffindir (2009). Yn 2002 roedd ganddi sioe solo yn y Tate Modern, ac yn 2006 cafodd ei darn fideo aml-sgrin Y Gwynt/The Wind (2006) ei arddangos yn yr Amgueddfa Celfyddydau Modern yn Efrog Newydd. Hefyd, mae hi wedi cael sioeau solo yn y Guggenheim yn Bilbao, yn y Moderna Museet yn Stockholm, yn y Neue Nationalgalerie yn Berlin, yn y Parasol Unit yn Llundain, yn yr ACMI ym Melbourne ac yn y DHC/ART ym Montreal.


Oriel

Please click images to enlarge