Olga Chernysheva

Bywgraffiad

Mae Olga Chernysheva wedi’i lleoli ym Mosgo, ac mae’n creu gwaith lle gwelir pobl yn mynd i’r afael â chymdeithas gythryblus lle mae’r ymdeimlad o ddyfodol cyffredin wedi diflannu. Mae ei ffilmiau, ei ffotograffau, ei lluniau a’i gweithiau seiliedig ar wrthrychau yn mynd y tu hwnt i’r dogfennol, gan droi’n ddelweddau telynegol o unigolion sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau ar adeg pan mae’r gymdeithas, yn amlwg, yn newid yn ddi-baid.

Credit:

Mae’n canolbwyntio ar ffigyrau, ar unigolion, gan gynnig awyrgylch treiddgar, seicolegol. Caiff profiadau arferol eu dyrchafu’n brofiadau rhyfeddol, a daw’r gwylwyr yn ymwybodol ohonyn nhw eu hunain yn gwylio ac yn beirniadu eraill a’u bywydau.

 

Cafodd ei fideo Y Trên/The Train (2003) ei brynu trwy gyfrwng Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams ar ôl iddo gael ei gyflwyno yn arddangosfa Artes Mundi 4.

 

Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau ac amgueddfeydd drwy’r byd, yn cynnwys yr Amgueddfa Celfyddydau Modern, Efrog Newydd; Lunds Konsthall, Sweden; Biennale Celfyddydau Modern Mosgo; Folkwang, Essen; Kunsthalle Hambwrg; Amgueddfa Solomon R Guggenheim, Efrog Newydd.

Caiff ei gwaith ei gadw mewn casgliadau pwysig drwy’r byd, yn cynnwys yn yr Amgueddfa Celfyddydau Modern, Efrog Newydd; Sefydliad Louis Vuitton, Paris; Amgueddfa Rwsia, St Petersburg; Gweinyddiaeth Diwylliant Rwsia, Mosgo; Amgueddfa Gelf Nasher, Prifysgol Duke; Ludwig Forum fur Internationale Kunst, Aachen, Yr Almaen; Amgueddfa Genedlaethol y Celfyddydau, Pensaernïaeth a Dylunio, Oslo; NBK, Berlin, Yr Almaen; Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain.


Oriel

Please click images to enlarge