Tania Bruguera

Bywgraffiad

Mae Tania Bruguera yn mynd ati’n ymwybodol i ymwrthod â defnyddio lle mewn orielau, a thrwy arferion rhyngddisgyblaethol sy’n cwmpasu gosodweithiau, ymyriadau cymdeithasol ac, yn bennaf, perfformio, mae’n archwilio’r rôl sydd gan gelf i’w chwarae mewn bywyd gwleidyddol beunyddiol, gan daflu goleuni ar ddealltwriaeth unigolion o’r hunan fel rhan o gof cymdeithasol cyfunol, hanesyddol a chyfoes. Iddi hi, mae’r profiad gyda’r gwaith celf ar ei fwyaf pwerus pan gaiff ei ddatgysylltu oddi wrth nodweddion confensiynol orielau a’i integreiddio â realiti cymdeithasol.

Credit:

Mae’r hyn a wna Bruguera wedi’i wreiddio yn y dasg o archwilio’r profiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd o fod yn frodor o Giwba. Mae’n annog y gwylwyr i ailystyried a chwestiynu syniadau’n ymwneud ag ofn, bregusrwydd, grymuso, hunanbenderfyniad a rhyddid, yn ogystal ag ymddarostwng ac ufuddhau fel strategaethau goroesi cymdeithasol.

 

Wrth galon a chraidd arferion Bruguera ceir ysgogiad cydweithredol sy’n esgor ar y posibiliadau sydd ar gael iddi hi, y gellir eu rhannu ag eraill. Yn 2003 aeth ati i sefydlu ysgol gelf amgen, sef Cátedra Arte de Conducta (Celfyddyd Ymddygiad) yn Hafana er mwyn sianelu adnoddau technolegol a deallusol nad oeddynt ar gael yn Ciwba, er budd darpar artistiaid o Giwba. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig wrth feithrin cenhedlaeth o artistiaid o Giwba sydd bellach yn dechrau arddangos eu gwaith yn rhyngwladol. Rhwng 2010-15 canolbwyntiodd Bruguera ar ei phrosiect hirdymor Mudiad Mewnfudwyr Rhyngwladol/Immigrant Movement International yn Queens, Efrog Newydd, sy’n ceisio ailddiffinio mewnfudwyr fel dinasyddion byd-eang ac ysgogi artistiaid i greu darnau y gellir eu rhoi ar waith mewn materion cymdeithasol, gwleidyddol a gwyddonol.

Fe wnaeth y gosodwaith amlgyfrwng Destierro (Dadleoli/Displacement) (1998-99), lle defnyddir pridd o Giwba, ennill Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn 2012, a chafodd ei brynu ar gyfer casgliad Amgueddfa Cymru. Mae’n cynnwys fideo, ynghyd â’r wisg a wisgodd Bruguera pan fu’n troedio strydoedd Hafana yn “hela” y rhai a oedd wedi anghofio’u treftadaeth Giwbaidd, a hithau wedi’i gwisgo fel y dduwies Nkisi Nkonde mewn gwisg wedi’i gwneud o fwd a hoelion.


Oriel

Please click images to enlarge