Ragnar Kjartansson

Bywgraffiad

Mae Ragnar Kjartansson, artist o Wlad yr Iâ, yn defnyddio hanes ffilm, cerddoriaeth, theatr, diwylliant gweledol a llenyddiaeth i greu gosodweithiau fideo, perfformiadau maith (sy’n para oriau weithiau), lluniau a phaentiadau. Daw dulliau llwyfannu yn hollbwysig yn ymdrech yr artist i gyfleu gwir emosiwn a chynnig profiad gwirioneddol ar gyfer y gynulleidfa.

Credit: The Sky In A Room - Ragnar Kjartansson National Museum Cardiff, 2nd February 2018

Mae gwaith chwareus Kjartansson yn llawn o adegau unigryw: daw’r dramatig a’r cyffredin benben â’i gilydd mewn ffordd gofiadwy.

 

Ar ôl iddo gymryd rhan yn arddangosfa Artes Mundi 6, enillodd Kjartansson Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams, a chafodd ei gomisiynu gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru i greu darn perfformio newydd, Yr Awyr Mewn Ystafell/The Sky in a Room. Yn y darn hwn, dros gyfnod o bum wythnos rhwng 3 Chwefror ac 11 Mawrth 2018, ac am bum awr y dydd, gwelwyd cyfres o organyddion yn perfformio’r gân enwog o’r flwyddym 1959, sef “Il Cielo In Una Stanza” (Yr Awyr Mewn Ystafell/The Sky in a Room), ar organ Syr Watkins Williams Wynn a oedd yn dyddio i 1744.

 

Llwyddodd y comisiwn cyffrous hwn i uno ffurfiau celfyddydol hanesyddol a chyfoes mewn man lle gallai ymwelwyr brofi amgylchedd breuddwydiol, swrrealaidd a doniol, o dro i dro, Kjartansson. Roedd y perfformiad yn canolbwyntio ar yr organ, sef elfen hollbwysig o oriel Celf Brydeinig y 18fed ganrif yn Amgueddfa Cymru, ac roedd yn cynnwys symud yr holl baentiadau ymaith er mwyn datgelu’r ffabrig glas golau hynod addurnedig ar y wal ac ynysu’r organ a’r perfformiwr.

 

Cafodd y gân bop Eidalaidd Il Cielo In Una Stanza, sydd wrth wraidd y gwaith, ei disgrifio gan y cyfansoddwr fel y gred “y gall cariad, ar unrhyw adeg, oresgyn unrhyw rwystr neu ffin”. Fe’i hysgrifennwyd gan un o gyfansoddwyr enwocaf yr Eidal, Gino Paoli, ac fe’i recordiwyd yn wreiddiol gan Mina, un o drysorau’r Eidal. Mae’r gân wedi ymddangos hefyd mewn ffilmiau clasurol drwy’r 20fed ganrif, yn cynnwys “Girl With a Suitcase” (1960), a “Goodfellas” (1990) gan Martin Scorsese, ac mae wedi cael ei hailrecordio mewn Eidaleg, Saesneg a Ffrangeg, yn cynnwys fersiwn gan Carla Bruni.

 

Wrth ddisgrifio’r darn, dyma a ddywedodd Kjartansson: “Mae’r gwaith ‘Yr Awyr Mewn Ystafell/The Sky in a Room’ wedi’i leoli mewn ystafell las sy’n arddangos paentiadau Prydeinig o’r 18fed ganrif. Rydw i eisiau creu darn yn ymwneud â lle – trawsnewid lle yn yr ystafell fendigedig honno. Yn sydyn mae’r lle hwn, sydd fel arfer yn llawn o waith celf, yn wag. Yna caiff “Il Cielo in una Stanza” ei pherfformio’n ddi-baid ar yr hen organ. Dyma gân mae pob Eidalwr yn ei gwybod; bron na allech chi ddweud mai’r gân hon yw anthem genedlaethol cariad yn yr Eidal. Cerdd yn ymwneud â’r broses o drawsnewid lle yn yr ystafell organ las ysblennydd honno”.

 

Mae gwaith Kjartansson wedi cael ei arddangos yn eang. Cynhaliwyd arddangosfeydd solo o’i waith yn y Guggenheim yn Bilbao, yn yr Amgueddfa Newydd yn Efrog Newydd, yn yr ICA, Boston, ym Migros Museum fur Gegenwartskunst, Zurich, yn y Fondazione Sandretto Re Rebaudengo, Turin, ac yn y Frankfurter Kunstverein a’r BAWAG Contemporary yn Fienna. Enillodd Kjartansson Wobr Malcolm McLaren Performa yn 2011 am ei berfformiad o ‘Bliss’, sef dolen fyw 12 awr o aria olaf Mozart yn ‘Priodas Figaro’; ac yn 2009, ef oedd yr artist ieuengaf i gynrychioli Gwlad yr Iâ yn Biennale Fenis. Yn 2013 cafodd ei wahodd drachefn i Biennale Fenis, a thrwy gydol y sioe cyflwynodd berfformiad cerddorol gwefreiddiol ym mannau dyfrol yr Arsenale.

 

 

Pan wyt ti yma gyda mi

Does gan y stafell hon ddim waliau mwyach, dim ond coed

Coed di-rif.

Pan wyt ti yma, wrth fy ymyl

Dyw’r nenfwd fioled hwn

Ddim yn bodoli mwyach

Mae harmonica yn seinio Mae’n swnio i mi fel organ

Sy’n dirgrynu i ti ac i mi

Fry yn anferthwch yr awyr

I ti ac i mi

Yn yr awyr

 

(O Il cielo in una stanza, gan Gino Paoli)


Oriel

Please click images to enlarge