Bedwyr Williams

Bywgraffiad

Enillodd Bedwyr Williams, artist o Gymru, Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn 2016.

Credit:

Mae Williams yn defnyddio amlgyfryngau, perfformiadau a thestun i archwilio’r gwrthdaro rhwng yr agweddau ‘hynod ddifrifol’ a ‘chwbl gyffredin’ sy’n perthyn i fywyd modern. Mae Williams yn enwog am ddychanu’r berthynas rhwng yr artist a’r curadur trwy greu senarios absẃrd y gallant ymddangos ynddynt. Gan ddatblygu ar sail hyn, mewn blynyddoedd diweddar mae Williams wedi ymddiddori mwyfwy mewn fideo ar ôl degawd o weithio gyda pherfformiadau’r gair llafar.

 

Cafodd cyfres o 14 llun pin ac inc, ynghyd â dau waith fideo newydd – sef Tyrrau Mawr a Writ Stink (2015) – eu prynu ar gyfer casgliad Amgueddfa Cymru. Mae’r gweithiau ffilm newydd hyn yn cynnwys cyfryngau cymysg, a defnyddir hiwmor a bathos i drin a thrafod materion, pynciau a themâu’n ymwneud â dystopia a phwysigrwydd dynol-ryw yn y bydysawd.

Mae ei sioeau solo’n cynnwys y Whitworth, Manceinion; y Ganolfan Weledol ar gyfer Celf Gyfoes, Carlow, g39, Caerdydd a Vestjyllands Kunstpavillion (pob un yn 2015); y Tramway, Glasgow ar gyfer Glasgow International ac Oriel Mostyn, Llandudno (2014); Galeri Ikon, Birmingham (2012); a Kunstverein Salzburger, Salzburg (2011). Cafodd Williams ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Jarman Ffilm Llundain yn 2015 a bu’n cynrychioli Cymru yn 55ed Biennale Fenis yn 2013.


Oriel

Please click images to enlarge