Anna Boghiguian
Bywgraffiad
Enillodd Anna Boghiguian, artist Canadaidd/Eifftaidd, Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn 2018.
Credit:
Mae ei gweithiau cignoeth a mynegiadol yn cyfuno’r arfer o baentio, gwneud lluniau, ysgrifennu, collage a gwneud cerfluniau er mwyn ystyried y gorffennol a’r presennol trwy ryngblethu economeg, athroniaeth, llenyddiaeth a mythau. Ers y 1970au, mae Boghiguian wedi teithio’n ddi-dor ac mae ei gwaith wedi cofnodi ei hargraffiadau a’i harsylwadau o amryfal gymdeithasau, yn ogystal â’i phrofiadau o beidio â pherthyn fel estron a dieithryn. Yng ngwaith Boghiguian, mae palimpsest y cof yn cymryd gwedd ffisegol ar ffurf haen arw sy’n tewychu wyneb ei phaentiadau gyda llosgliw, pigment, dur, collage a malurion amhenodol.
Yn nodweddiadol o’i lluniau, ei phaentiadau, ei lluniau torri a’i gosodweithiau cynnil a gwleidyddol sy’n archwilio systemau byd-eang ac arbedion pŵer cymhleth, mae A Meteor Fell From The Sky yn osodwaith anferth a grëwyd yn benodol ar gyfer Artes Mundi 8. Mae wedi’i wreiddio yn hanes lleol Cymru a chyd-destun y diwydiant dur. Mae’n mynd y tu hwnt i economeg fyd-eang amhersonol ac yn treiddio i’r cymunedau y mae eu bywydau’n ei gwmpasu, yn cynnwys Port Talbot, Cymru.
Mae ei harddangosfeydd solo yn cynnwys y Tate St Ives (2019); ‘The Loom of History’, yr Amgueddfa Newydd yn Efrog Newydd (2018); Bait Al Serkal, Sharjah Arts Square, Sharjah (2018); Castello di Rivoli, Yr Eidal (2017); ‘Cities by the Rivers’, Oriel Celfyddydau Cyfoes SBA, Montreal (2015); ‘I heard of myths but I understood I have to free myself from it but how, when, and where’, Oriel Sfeir-Semler, Beirut (2014).
Oriel
Please click images to enlarge