Lida Abdul

Ochr yn ochr â Mircea Cantor, cafodd Lida Abdul hefyd ei gwaith fideo The Tree (2005) a gafwyd fel un o enillwyr Gwobr Prynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn ystod Artes Mundi 3.

Credit: Lida Abdul

Mae Lida Abdul yn defnyddio ffilm, ffotograffiaeth, gosodwaith a pherfformiad byw i ymchwilio i adladd rhyfel. Cafodd ei geni yn Kabul, Afghanistan ym 1973 a gadawodd y wlad wedi i’r Undeb Sofietaidd ei goresgyn. Bellach mae’n rhannu ei hamser rhwng Afghanistan ac Ewrop. Yn 2007 cafodd nifer o sioeau unigol mewn llefydd fel yr Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol, Napoli ac Amgueddfa Genedlaethol Kabul, Afghanistan. Cafodd ei chynnwys mewn sawl sioe grŵp gan gynnwys 2il Biennale Moscow ac 8fed Biennale Sharjah yn 2007 a 51fed Biennale Fenis, Arddangosfa Gelf Ryngwladol y “Pafiliwn Afghan” yn 2005.


Gallery

Please click images to enlarge