Mauricio Dias & Walter Riedweg
Ochr yn ochr ag Eija-Liisa Ahtila, cafodd Mauricio Dias a Walter Riedweg hefyd eu gwaith fel un o enillwyr Gwobr Prynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn ystod Artes Mundi 2. Mae eu gwaith fideo un sianel, Throw (2004) yn dogfennu ‘y gwrthryfel bob dydd o’r dyn bach ‘, wrth i ddinasyddion Helsinki gael eu gwahodd i daflu unrhyw beth roedden nhw’n ei hoffi at ddalen o wydr.
Credit: Mauricio Dias & Walter Riedweg
Mae eu gwaith yn cynnwys deunydd dogfennol yn ogystal a sefyllfaoedd gwneud, syn cael eu cyflwynon ffurfiol fel gosodweithiau fideo. Crefft dias & riedweg yw sgwrsio gyda phobl, fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau cymdeithasol. Maen nhwn ymddiddori mewn dialog ac yn dechrau sgwrsio a phobl mewn gwahanol rannau or byd, gan ddal profiadau, cyflwr ysbryd pobl a syniadau personol. Gan ddefnyddio camera fideo, maen nhwn cydweithio i edrych ar ddynoliaeth yn ei holl ffurfiau, yn ddaearol ac yn gymdeithasol. Maen nhw wedi creu gwaith gyda phlant y stryd yn rio de janeiro, hen ymfudwyr ym mharis, porthwyr fflatiau yn sao paulo ar bobl syn goruchwylior ffin rhwng mecsico ar uda. Maer holl bobl hyn yn gwneud cyfraniad ymarferol at y gwaith yn dogfennu, yn cyffesu, yn holi ac yn ateb. Wrth ddewis pobl i sgwrsio a nhw, mae dias a riedweg yn ymateb ir lle neur cynefin lle maen nhwn eu ffeindiou hunain.
Cafodd mauricio dias ei eni yn rio de janeiro, brasil ym 1964 a walter riedweg yn lucerne, y swisdir ym 1955.
Gallery
Please click images to enlarge