Mounira Al Solh

Biography

Yr artist o Lebanon, Mounira Al Solh, yw derbynnydd Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn 2024.

Credit: Mounira Al Solh

Credit: Mounira Al Solh, In Love in Blood © Mounira Al Solh / Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae Mounira Al Solh, a aned ac a fagwyd yn Beirut yn ystod rhyfel cartref Libanus, yn creu gwaith fel ffurf o dyst i straeon a phrofiadau byw y rhai yr effeithiwyd arnynt gan wrthdaro parhaus, gormes, a chyfundrefnau patriarchaidd ar draws rhanbarth y Dwyrain Canol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y brwydrau merched. Wedi’i llywio gan ei threftadaeth Libanus-Syria ei hun, a datblygu gwaith ar y cyd ag eraill, mae’n ystyried pwysigrwydd hanesion llafar ac adrodd straeon fel cofnod o’r profiadau hyn. Mewn cyferbyniad, mae ei phaentiadau yn arferiad unig lle mae gwrthdaro realiti o fewn y byd Arabaidd yn dod i’r amlwg yn chwareus, gan dorri pob ffin. 

 

Mai hi wedi cael arddangosfeydd yn Museumsquartier Osnabrück, yr Almaen (2022); Canolfan Celf Gyfoes BALTIC, Gateshead, y DU (2022); Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo (2020); Canolfan Gelfyddydau Jameel, Dubai (2018); Mathaf: Amgueddfa Arabaidd Celf Fodern, Doha (2018); a Sefydliad Celf Chicago (2018).  

Mae sawl darn o’r gyfres In Love in Blood (2023) gan Mounira Al Solh wedi’u dewis ar gyfer y wobr yn 2024. Mae gwaith tecstilau In Love in Blood yn nodweddiadol o ddefnydd Mounira o frodwaith a’i diddordeb yng nghrefft adrodd stori ac iaith yn ei holl gymhlethdod, ei naws a’i newid mewn ystyr. Mae’ pob brodwaith yn darlunio un gair o restr a luniwyd gan Ibn Qayyim El Jawziyya, diwynydd Islamaidd canoloseol a oedd yn byw yn Namascus yn y 13eg ganrif. Mae’r casgliad o eiriau Arabaidd yn cynnwys serch, addoli, angerdd, gwaed, hiraeth, galar, ffolineb, ac yn catalogio dros 50 o ffyrdd o ddatgan cariad, yn seiliedig ar faint, lefel neu naws yr emosiwn.


Gallery

Please click images to enlarge