Hannan Jones A Frontier in Depth

Hannan Jones | A Frontier in Depth

Amffitheatr Rufeinig Caerllion
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
12 Ebrill 2025
10yb – 4yp
Cofrestrwch eich presenoldeb

Gosodiad sain aml-sianel yn Amffitheatr Rufeinig Caerllion (Broadway, Caerllion, Casnewydd, NP18 1AY).

 

Cyflwynir tairoleg o ffilmiau newydd ac ailgymysgedd o seinwedd o’r Amffitheatr sydd ar gael fel record finyl 12-modfedd arbennig, yn y Stiwdio yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru (Caerllion, Casnewydd, NP18 1AE).

 

Ar ben hynny, bydd detholiad o eitemau cerameg sydd wedi cael eu creu gan gymunedau lleol Casnewydd a Chaerllion yn cael eu harddangos fel rhan o’r arddangosfa yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

 

Mae Safbwynt(iau), sy’n broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth CADW.

 

Dysgwch fwy am y rhaglen Safbwynt(iau) yma.