Artes Mundi 5
6 Hydref 2012
- 13 Ionawr 2013
Amgueddfa Genedlaethol
Caerdydd a Chapter
Ar gyfer Artes Mundi 5, cafodd presenoldeb mawr, eang ei greu ledled dinas Caerdydd, gan ddefnyddio amgueddfa, oriel, mannau oddi ar y safle a digwyddiadau.
Credit: artes mundi 5 - artes mundi five - Phil Collins - free fotolab - Photographed By Robin Maggs - National Museum Wales 2012
Credit: artes mundi 5 - artes mundi five - Miriam Bäckström - Smile as if we have already won - Photographed By Robin Maggs - National Museum Wales 2012
Credit: This Unfortunate Thing Between Us, work for Artes mundi 5 by Phil Collins - TUTBU was housed in two caravans outside Chapter. 2012 Photographed by Robin Maggs.
Cyflwynodd Miriam Bäckström, artist o Sweden, dapestri newydd ar raddfa fawr – Smile as if we have already won. Cyflwynodd Tania Bruguera, artist o Giwba, Immigrant Respect Campaign, fel rhan o’i phrosiect celf hirdymor, Immigrant Movement International (2010-2015). Roedd hyn yn cynnwys taflunio gwaith yr artist ar du blaen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ochr yn ochr ag ymgyrch bosteri trwy ganol Caerdydd. Cyflwynodd Darius Mikšys, artist o Lithwania, waith newydd o’r enw The Code lle defnyddiodd draethawd Eglė Obcarskaitė am Mikšys ar gyfer catalog arddangosfa Artes Mundi 5, a datgymalu’r testun yn ‘dermau chwilio’ a bwydo’r wybodaeth wedyn i’r saith cronfa ddata casgliadau sydd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Arweiniodd y canlyniadau at greu gosodwaith unigryw sy’n creu darlun o’r artist a’i arferion trwy gyfrwng gwrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa. Cyflwynodd y pensaer a’r artist gweledol Apolonija Šušteršič ei gwaith newydd Politics “In Space” / Tiger Bay Project, sy’n ystyried datblygiad ardal Bae Caerdydd ar ôl cwblhau’r morglawdd. Roedd uchafbwyntiau ychwanegol i’w harddangos yn cynnwys prosiect free fotolab yr artist Prydeinig Phil Collins a cherflun haniaethol mawr yr artist Indiaidd Sheela Gowda, sef Kagebangara, lle ceir drymiau tar sy’n tarddu o weithwyr ffordd Indiaidd, ochr yn ochr â tharpwlin plastig melyn a glas. Mae Teresa Margolles, artist o Fecsico, yn archwilio economeg marwolaeth trwy ymyriadau a pherfformiadau cerfluniol.
Roedd perfformiadau a phrosiectau oddi ar y safle yn rhan o Artes Mundi 5, ac roedd y rhain yn cynnwys This Unfortunate Thing Between Us gan Phil Collins; dau berfformiad o ddrama Miriam Bäckström, Motherfucker; Live Talk Show, sef trafodaeth banel gyhoeddus fel rhan o waith Apolonija Šušteršič, Politics “In Space”/ Tiger Bay Project; a hefyd 1x1x1, un ffilm gan un artist am un diwrnod yr un, yn cynnwys gweithiau gan Teresa Margolles, Phil Collins, Tania Bruguera, Miriam Bäckström ac Apolonija Šušteršič.
Sofía Hernández Chong Cuy, Curadur y Celfyddydau Cyfoes, Colección
Anders Kreuger, Curadur, M HKA, Antwerp
Tim Marlow, Cyfarwyddwr Arddangosfeydd, White Cube, Llundain
Ute Meta Bauer, Deon y Celfyddydau Cain, y Coleg Celf Brenhinol, Llundain
Adam Budak, Curadur Rhyngwladol y Celfyddydau Cyfoes, Amgueddfa Hirshhorn, Washington DC
Kathrin Becker, Pennaeth Fforwm Fideo, nbk, Berlin
Karen MacKinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr, Kunsthaus Baselland, Basel
Gwobrau
Teresa Margolles
Enillydd Gwobr Artes Mundi 5 oedd Teresa Margolles, artist o Fecsico.
Credit:
Ers iddi raddio gyda diploma mewn meddygaeth fforensig yn niwedd yr 1990au, mae Margolles wedi archwilio economi marwolaeth, lle mae’r corffdy a’r ystafell ddyrannu yn arwydd o anfodlonrwydd cymdeithasol. Gan ganolbwyntio’n arbennig ar gydgythrwfl y profiad cymdeithasol yng ngogledd Mecsico, lle mae troseddau cyfundrefnol yn ymwneud â chyffuriau wedi arwain at lawer o drais a llofruddiaethau, caiff olion anhysbys o atgofion, claddedigaethau a bywydau’r gorffennol eu dwyn ynghyd.