Farah Allibhai

Artist a Churadur

Credit: Farah Allibhai. Photo - Eres Seer

Moslem Gujarati Shia Ismaili a aned yn Uganda yw Farah Allibhai ond mae wedi byw yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o’i hoes. Mae hyn yn rhoi iddi bersbectif diwylliannol rhyngwladol a lens drawstoriadol sy’n dylanwadu ar ei gwaith a siwrnai ei bywyd.    Fel artist aml-ddisgyblaeth a churadur, mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y broses o hunan-ddarganfod, hunan-wireddu, hunan-gyflawni a iachau’r hunan oddi mewn.

 

Gan ddefnyddio ei phrofiadau bywyd, dan ysbrydoliaeth amrywiaeth, y metaffisegol a’r ysbrydol, mae’n gofyn sut allwn ni gysylltu â ni ein hunain, â’r amgylchedd ac â’r cymunedau lle’r ydyn ni’n byw.  Mae ei gwaith yn arsylwadol, yn berfformiadol ac wedi’i greu ar gyfer safleoedd penodol.

 

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Weston Jerwood i Farah yn 2021 fel cynorthwyydd curadurol yn Artes Mundi. Chwaraeodd ran holl bwysig i sefydlu’r cydgasgliad 1800hrs ac ar hyn o bryd mae’n aelod o’r Aurora Trinity Collective a Celfyddydau Anabledd Cymru.

 

@farahallibhai