Fiona Tan

Ganwyd fiona tan yn Indonesia ym 1966 ac mae’n byw bellach yn yr Iseldiroedd.

 

Credit: Fiona Tan

Mae hi’n arbenigo mewn gosodweithiau ffilm a fideo, weithiau’n cymysgu deunydd sydd wedi’i ffilmio o’r newydd gyda lluniau archif, yn aml yn ymchwilio i gwestiynau hunaniaeth a diwylliant gweledol. Arddangosodd yn Documenta yn Kassel 2002, yn Triennale Yokohama, 2002 ac yn Biennale Fenis, 2001. Mae wedi dangos ei gwaith hefyd yn Llundain, Ewrop, De Affrica, Japan a’r Unol Daleithiau.