Grŵp ‘Threads’ Oriel Gelf Glynn Vivian

Gorffennaf 2023 – Ebrill 2024

Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri

Fel rhan o raglen gyhoeddus AM10, buom yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau i ddatblygu cyfres o brosiectau gyda chymunedau. Cafodd y rhain eu gwireddu mewn ymateb i’r themâu a’r syniadau a oedd yn bresennol yn yr ymarferion a’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos gan bob un o’r saith artist. Cymerodd y prosiectau sawl ffurf tra bod cymunedau hefyd wedi cyfrannu at ein cyfres o bodlediadau a chynhyrchu labeli deongliadol a ddangosir yn yr orielau.

 

Credit:

 

 

 

 

Gan weithio gyda’r grŵp ‘Threads’ a’r artist Menna Buss, datblygodd y prosiect mewn ymateb i waith Nguyen Trình Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, gan arwain at greu cyfres o tsilis wedi’u crosio ac a ddefnyddiwyd i addurno’r Goeden Nadolig yn yr amgueddfa. Roeddent hefyd wedi cyfrannu at arddangosfa Archwilio yn y Ffatri, Porth, gan weithio gyda Phlant y Cymoedd, ac wedi ymweld â Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer teithiau AM10. Gwnaethom hefyd alluogi’r grŵp ‘Threads’ i wneud cysylltiadau ag Aurora Trinity Collective yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y prosiect yn cynnwys 17 o gyfranogwyr a chwe gweithdy, pedwar cyfweliad i’w cynnwys mewn podlediadau, testun a gynhyrchwyd fel ‘para-label’, a dau ymweliad cyfnewid, yn ogystal â chynhyrchu tecstilau.


Please click images to enlarge

Partneriaid Cyflwyno

 

Partneriaid Craidd

 

Partneriaid Cyllido