Gwedr teilchion
gan Chandrika Joshi
Credit: gan Efa Blosse Mason
Y prifathro yn yr ysgol ddywedodd wrtha’ i bod y gair cartre a’r gair tŷ yn golygu pethau gwahanol.
“Yn dy gartre rwyt ti’n byw, nid yn dy dŷ,” meddai.
“Beth yw cartre yn dy iaith di?”
Roedd ei eiriau wedi cyffwrdd â mi, rywsut, ac fe wnaethon nhw imi bendroni. Yn Gujarati, ghar yw’r gair am gartre a thŷ ill dau – mae’n golygu preswylfa. Mae sawl gair am breswylfa – geiriau fel ‘makaan’, ‘nivas’ a ‘sadan’ – ond ghar yw’r un mwya’ cyffredin. Wnes i erioed feddwl nad oedd tŷ a chartre’r un fath. Tan 1972, fy nhŷ yn Uganda oedd fy nghartre hefyd – fe gredwn fy mod i’n perthyn i’r lle hwnnw, a bod y lle’n perthyn i minnau.
Roedd ein mam wrth ei bodd, yn ei ffordd urddasol, â’n tŷ cyngor tair llofft ym Mhenrhys. Yn Uganda, mewn tŷ lled-barhaol o’r 1920au roedden ni’n byw, a haearn rhychog arno’n do. Fan hyn, roedden ni wedi cael tŷ waliau brics a tho teils. Roedd naw ohonon ni’n byw yn y tŷ yma, ac roedd hi’n teimlo’n dipyn o wasgfa, a ninnau blith draphlith. Roedd ein drysau a’n ffenestri ar gau’n amlach nag oedden nhw ar agor. Petai’n ddim byd arall, roedd hynny’n cadw’r oerfel mas. Yn y cyfamser, roedd gan ein tŷ yn Uganda ystafelloedd mwy o faint, a drysau a ffenestri agored. Byddai ein lle byw yn goferu i’r iard, i’r feranda ac i gartrefi ein cymdogion.
Yn haf 1974, cafodd fy chwaer Madhu syniad. Roedden ni’n eistedd lan staer yn yr ystafell wely roedden ni’n ei rhannu â’n brodyr a’n chwiorydd. Roedd hi’n syllu ar dop y wardrob pan ddywedodd hi, “beth am inni wisgo sari”.
“Sa’ i moyn,” ochneidiais, yn gwasgu’r geiriau o’m ceg.
Doeddwn i ddim yn gyfforddus â’m corff ifanc; llances oeddwn i ac roeddwn i wedi penderfynu na fyddwn i’n gwisgo unrhyw ddillad merchetaidd. Doeddwn i ddim yn hoffi’r bronnau oedd wedi ymddangos dros nos ar fy mrest, ond roedd hi’n rhyddhad nad oedden nhw mor fawr â bronnau Diane Jones. Nid fod bwys gan Diane. A dweud y gwir, roedd yr holl ferched yn fy nosbarth yn genfigennus iawn o fronnau Diane. Allwn i ddim deall pam oedd merched Cymru’n dathlu dod yn fenywod. I mi, melltith oedd hyn.
Gwyliais fy chwaer yn llusgo’r siwtces glas o dop y wardrob i’r llawr. Sychodd y llwch oddi ar y caead – caead ac arno’r geiriau K K JOSHI mewn paent emylsiwn gwyn, yn llawysgrifen plentyn. Symudodd hi’r ddau glo i’r naill ochr gyda chlic, ac agor y caead. Llifodd arogleuon peli camffor a choed sandal o’r ces. Byrlymodd atgofion yn ôl o’r stafell ganol a’r wardrob liwgar yn ein tŷ yn Uganda, lle byddai Ba’n cadw’i saris gorau. Camais o’r gwely ac eistedd ar y llawr, gan wylio Madhu yn estyn un sari ar y tro o’r ces.
“Dyma ni”, llefodd, wrth fachu sari shiffon borffor ac arni flodau coch a thrim o edau a gleiniau aur. Neidiodd ar ei thraed a chamu at y ffenest, gan osod y sari yn erbyn y gwydr. Llamai pelydrau haul drwy’r sidan shiffon nes llenwi’r holl stafell â blodau pinc. Dawnsiai tonnau o gysgodion pinc ar y waliau a’r dillad gwely gwyn. Glaniai’r blodau ar y llawr ac addurno’r carped melyn fel rangoli. Roedd y sêr aur yn symudliw ar y waliau. Llosgai’r llewyrch fy llygaid fel gwydr teilchion. Wrth ddychmygu y byddai Madhu’n edrych yn bertach na fi, fe gefnais ar fy ffantasïau tomboi a thyrchu i’r siwtces glas. Chwilotais yn frwd, gan estyn un sari ar y tro, edrych arni, a’i thaflu ar y llawr.
Estynnais sari borffor a du drom y gwelais fy mam yn ei gwisgo yn y briodas olaf yr aethom iddi yn Uganda. Roedd y ffibrau reion porffor tywyll a du wedi’u gwehyddu ynghyd, gan greu effaith rhwyd batrymog y gallech weld trwyddi. Rhois hi yn erbyn fy nhrwyn, a mwynhau aroglau’r peli camffor. Taflais y sari’n agored dros y carped melyn, gan gael gwared â’r holl flodau pinc gwantan roedd Madhu wedi’u harddangos mor falch. Roedd hi fel noson dywyll yn cuddio’r rhosod mewn gardd. Dechreuais lapio’r defnydd o amgylch fy ngwasg, a fesul modfedd, daeth y carped melyn i’r golwg drachefn fel yr ardd ar doriad gwar.
Roedd fy ngwasg deirgwaith yn fwy yn y sari.
“Rwyt ti’n edrych fel y fenyw honno oedd yn arfer shafo’i hwyneb,” meddai Pankaj, fy mrawd, wrth ddod i mewn i’r stafell. Roedd yn ugain oed ac newydd roi’r gorau i’w addysg er mwyn dechrau gweithio yn y ffatri leol. Pankaj oedd un o’r bechgyn clyfra’ yn ein tre ni yn ôl gartre. Credai pawb y byddai’n sicr o ddod o yn feddyg. Roedd fy nhad wedi’i anfon i’r Deyrnas Unedig i wneud ei lefel A mewn ysgol fonedd, gwta ddeunaw mis cyn inni gael ein halltudio o’r wlad. Pan gyrhaeddon ni Gymru’n ddirybudd, tarfodd hynny ar ei addysg a chafodd e ddim y graddau roedd e wedi gobeithio’u cael. Wedi’i siomi’n arw, rhoddodd ei astudiaethau o’r neilltu a dechrau gweithio yn ffatri Leiner yn Nhrefforest. Fe oedd y mab hynaf, ac roedd e’n teimlo pwysau a chyfrifoldeb i’n hachub o dlodi.
“Padeeee,” meddai Madhu gan bwyntio’i bys tuag ata’ i, sef y gair am gyw byfflo. Dyna roedden ni’n arfer galw’r fenyw a fyddai’n shafo’i hwyneb.
“Roeddwn i’n sôn amdanat ti,” meddai Pankaj gan dynnu coes.
Crensiais fy nannedd a phiffian chwerthin.
“Mae’r merched yn tyfu’n ddigon hen i’w priodi,” meddai Motaba wrth ddod at y drws, a gwenu’n ddiddannedd.
“Gynted yn y byd y dysgwch chi wisgo saris, gynted yn y byd y cewch chi’ch priodi”. Goleuodd llygaid Pankaj gan ei fod yn gwybod bod yn gas gennyn ni sôn am briodi.
“Reit, smo fi’n gwisgo lan.” Taflais y sari borffor ar y llawr ac eistedd yn fy nghwrcwd.
“Paid â gwrando arno fe,” meddai Madhu gan wthio Pankaj mas o’r stafell.
“Rych chi ferched yn ‘chapoo’, yn union fel eich mam,” meddai Motaba gan ddwrdio, a rhoi’i bysedd cnotiog ar y blew a dyfai o’i gên wrth edrych ar y pentwr o saris yr y llawr.
Edrychon ni arni, wfftio ac ochneidio.
“Mae hon yn un neis,” meddai Madhu gan roi sari binc imi, ac arni flodau aur ar ei hyd.
“Fe wisgais i hon yn nathliad y Janoi yn 1968”. Rhois y defnydd sgleiniog ar fy mhen. Llithrodd hwnnw i’r llawr fel fflamingo wedi marw.
“Dillad cyffredin wisgais i yn y Janoi,” meddai Madhu, gan fy atgoffa sut y byddwn i wrth fy modd yn gwisgo dillad oedolion pan oedden ni’n blant, a hithau’n casáu hynny.
“Dyma ni.” Tynnais lathenni o sidan satin glas golau o’r ces, a chofleidio’r defnydd yn dynn. Gwisgodd Madhu a minnau ein blowsys a’n peisiau, a lapio ein saris o amgylch ein canol, gan adael y llathen olaf o’r defnydd ar gyfer y palav, a lluchio hwnnw dros ein hysgwydd chwith. Rhedeg i lawr y grisiau wedyn, gan gicio’r ffabrig sidan â’n traed fesul cam.
“Rych chi’ch dwy’n edrych yn brydferth iawn – yn fenywod ifanc”, meddai Ba wrth wthio’i phen o’r gegin.
“’Drych, Bapuji,” meddai Madhu gan fy llusgo i’r lolfa lle roedd Bapuji’n eistedd ar gadair.
“Digon o sioe,” gwenodd Bapuji yn ganmoliaethus.
Crwydrodd Madhu a minnau yr heol gron, Heol Pendyrus, a amgylchynai’r stad gyngor lle roedden ni’n byw. Wrth inni basio’r tai ar y stryd, byddai’r cyrtens rhwyd yn symud a llygaid y Cymry’n ein dilyn yn chwilfrydig. Gweiddai’r plant arnon ni, syllai’r merched ifanc arnon ni ag edmygedd, a chipedrychai’r dynion ifanc arnon ni’n swil.
Aethon ni heibio’r cwt boeler a sefyll ar odre’r bryn, gan weld y cymoedd oddi tanon ni’n goleuo wrth i’r min nos ddechrau cipio’r dydd. Hedfanai ein saris yn yr awyr fel pili palas anferth.
Rwy’n cofio’r diwrnod mor glir. Y diwrnod pan agoron ni ein siwtces o’r diwedd, i ollwng yn rhydd yr hyn oedden ni, a’u gadael i hedfan o amgylch y tir newydd lle roedden ni bellach yn byw. Tir a fyddai’n dod yn gartre inni, un dydd, gobeithio.
Credit:
Mae Chandrika Joshi wedi ymddeol o’i swydd fel arbenigwraig mewn gofal deintyddol. Mae hi wedi ennill Gwobr Menywod Llwyddiannus Lleiafrifoedd Ethnig Cymru. Mae hi’n adrodd straeon, yn offeiriad Hindŵaidd, ac yn egin awdur newydd. Enillodd le ar gwrs egin awduron Rhys Davies gyda Llenyddiaeth Cymru yn 2021, ac mae ganddi ddiddordeb mewn ysgrifennu am fywyd.
Trwy’r prosiect From Now On, derbyniodd Chandrika gefnogaeth fentora ac adborth beirniadol gan Durre Shahwar, Cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From.