Heledd C Evans
Artist
Credit: Heledd C Evans
Mae Heledd C Evans yn artist ac yn hwylusydd sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio’n bennaf gyda sain fel cyfrwng a phwnc, gan ganolbwyntio’n aml ar greu gwaith ar gyfer safleoedd penodol. Yn ddiweddar, fe greodd waith ar gyfer Eglwys Llandyfeisant ger Llandeilo ar gyfer Gŵyl Beyond the Border, ac Interwoven, sy’n osodwaith gyda’r artist tecstilau Annie Fenton yn Shift Caerdydd lle mae’n artist preswyl ar hyn o bryd.
Mae’n gweithio’n awr fel rhan o ddeuawd sain/perfformio, Ardal Bicnic gyda’r Ysgrifennwr a’r Cerddor Rosey Brown, ac yn ddiweddar fe wnaethant ddatblygu a theithio â darn perfformio awyr agored, Sound Foraging, fel rhan o Fwrsari Celfyddydau Awyr Agored Pedair Cenedl Articulture.