I lawr o le uchel

gan Sammy Jones

Sut ydych chi’n cael profiad o gelf? Ydych chi’n gwneud y canlynol:

 

A.) Treulio eich bore’n dysgu’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i deimlo’n gwbl barod ar gyfer yr hyn rydych chi ar fin ei brofi?

 

Neu

 

B.) Rhedeg drwy’r drws fel fi heb ystyried y canlyniadau, gan edrych ar weithiau celf heb unrhyw eglurhad, heb dreulio eiliad yn bwrw golwg ar unrhyw ymchwil?

 

Mae gan sefydliadau celf gyfrifoldeb i’n rhybuddio am ddeunydd a allai beri gofid a arddangosir yn eu horielau, ac nid dim ond oherwydd gweilch fel fi.

 

Mae curaduron, artistiaid, a phawb sy’n gweithio mewn amgueddfeydd ac orielau’n meddwl yn hynod ofalus ac yn gweithio’n galed iawn ar arddangosfeydd, gan ystyried bob amser sut y bydd y gweithiau celf yn cael eu dehongli gan eu cynulleidfaoedd. Mae’r penderfyniad dwys ynghylch sut y cyflwynir gwaith celf yn eu dwylo nhw.

 

Fel arfer, caiff rhybuddion am gynnwys mewn lleoliadau celfyddydol eu cyfleu drwy arwyddion clir sy’n dangos themâu a allai beri gofid neu fod yn anghyfforddus i’w gweld. Mae’n bwysig i hyd yn oed y rhai mwyaf parod ohonom dreulio eiliad yn ystyried, ‘ydw i’n barod i wynebu’r math arbennig hwn o bwysau y funud hon?’

 

Pan ddechreuais i weithio yn Artes Mundi fel Cynhyrchydd Ymgysylltu ychydig fisoedd yn ôl, canolbwyntiais ar Angels of Testimony gan Meiro Koizumi yn y lle cyntaf. Mae’r gwaith ffilm hwn yn seiliedig ar dystiolaeth person cyntaf cyn-filwr Japaneaidd a fu’n ymladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sy’n ymddangos yn y gwaith ochr yn ochr â grŵp o bobl ifanc o Japan sy’n perfformio ac yn ailadrodd ei eiriau’n gyhoeddus.

 

Mae gan Angels of Testimony naws gwahanol iawn i weddill y gwaith yn Artes Mundi 9. Mae’r cynnwys yn fwy anrhagweladwy o filain, yn cael ei gyfleu’n blwmp ac yn blaen, ac mae’n defnyddio iaith dreisgar amlwg o fywyd go iawn ac yn adrodd yr hanes o safbwynt person cyntaf. Rwy’n credu, pwy bynnag ydych chi, ei bod yn debygol iawn y bydd yn emosiynol anodd ei brofi, ac y bydd yn teimlo’n llethol neu’n ennyn ffieidd-dod wrth ei wylio’r tro cyntaf. Mae’n anodd mynegi’n ysgrifenedig y dyfnderoedd annynol y mae’r gwaith yn cyfeirio atynt, ac eto, mae’n taflu goleuni ar ran o hanes sydd wedi’i guddio’n fwriadol.

 

Wrth weld y gwaith am y tro cyntaf roedd llawer o themâu’n sbardunau posibl amlwg i mi a allai effeithio’n negyddol ar gynulleidfaoedd pe baent yn rhuthro i’r oriel heb fod yn barod am yr hyn oedd yno. Mae’r socialistworker.org* yn diffinio sbardunau fel, ‘ unrhyw ysgogiad sy’n gwneud i rywun ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) neu PTSD Cymhleth (CPTSD) ail-fyw, gweld cipolwg, neu brofi pryder difrifol neu anallu arall i ymdrin ag emosiynau sy’n gysylltiedig â’u profiadau trawmatig’. Mae gen i brofiad yn fy mywyd o drawma rhywiol a cham-drin corfforol, a chefais fy ysgwyd gan y graddau yr arhosodd y gwaith gyda mi drwy gydol yr wythnos ar ôl ei wylio am y tro cyntaf. Roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi roi rhybudd llafar am y cynnwys cyn i mi siarad amdano gyda fy ffrindiau hyd yn oed. A dyna’r lefel o ofal a ddylai fod yn nod i sefydliadau celf. Mae rhybuddion cynnwys yn bodoli er mwyn pobl fel fi, felly gallaf ddewis peidio â gweld rhywbeth a allai ennyn canlyniadau corfforol a meddyliol y gellid bod wedi’u hosgoi.

 

Oherwydd y profiad hwn, dechreuais ymddiddori yn y ffordd yr oedd Artes Mundi yn mynd i gyflwyno rhybuddion cynnwys ar gyfer y gwaith pan fydd ar agor i’r cyhoedd. Roedd yn ymddangos bod yna gymhlethdod ynglŷn â gwneud hyn: bod yn gefnogol yn hytrach na bod yn nawddoglyd; bod yn amwys yn hytrach na bod yn eglur… mae’r holl beth yn anodd iawn.

 

Mewn llyfr a olygais, Rife: Twenty-One Stories from Britain’s Youth, penderfynodd fy nghyd-olygydd Nikesh Shukla a minnau ddefnyddio rhybuddion cynnwys drwyddi draw. Maen nhw’n rhybuddio darllenwyr ar unrhyw themâu heriol ym mhob pennod cyn iddyn nhw fwrw iddi a dod ar draws rhywbeth sy’n peri gofid. Ond mae hynny ychydig yn wahanol i rybuddion cynnwys mewn lleoliad cyhoeddus fel arddangosfa – mae’n haws rhoi’r gorau i ddarllen rhywbeth sy’n teimlo’n anghyfforddus, rhoi’r llyfr o’r neilltu, a dod at eich hun yn eich amser a’ch lle eich hun. Fodd bynnag, pan fyddwch chi y tu mewn i oriel gyhoeddus yn gorfforol, rydych chi yng ngŵydd pawb. Efallai na fyddwch yn teimlo’n ddigon diogel, nac yn ddigon hyderus i adael.

 

Rhywbeth arall a’m trawodd am Angels of Testimony pan welais y gwaith gyntaf oedd y gallech fynd i’w weld fel aelod o’r gynulleidfa mewn oriel gyhoeddus ac yna ceisio mynd ymlaen â’ch diwrnod. Gallai’r digwyddiadau annynol y mae’n eu disgrifio fod ar eich meddwl wedyn heb ddim byd i’w rhoi yn eu lle. Sut allem ni helpu pobl i ddod at eu hunain ar ôl yr hyn maen nhw newydd ei brofi?

 

Pan fyddaf yn meddwl am hyn, rwy’n gweld fy hun yn helpu rhywun i ddod i lawr o le uchel lle maen nhw wedi cael eu gadael, efallai drwy ddal eu llaw a’u helpu’n ôl i’r ddaear. Yn fy nhroslais ar gyfer Angels of Testimony rwy’n gwneud hyn drwy gynnig llinell olaf o gefnogaeth cyn i’r gynulleidfa ddychwelyd i’w byd bob dydd:

 

Mae ail-fyw a chydnabod poen y gorffennol er mwyn gwella yn thema bwerus yn y gwaith celf hwn. Os ydych chi’n teimlo’n gythryblus, cofiwch bwysigrwydd adnabod eich anghysur, gwybod bod eraill yn teimlo’r un fath, a rhoi amser i chi eich hun cyn parhau â’ch profiad Artes Mundi.

 

Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn mynd gam bach o’r ffordd tuag at gefnogi’r rhai sy’n ei weld – ond byddwn wrth fy modd yn gwneud mwy i integreiddio mwy o ôl-ofal i brofiadau celf anodd.

 

Peidiwch â’m camddeall i – mae llawer o gelf yn cael ei chreu er mwyn herio, ysgogi’r meddwl a dychryn weithiau, ac mae hynny’n iawn. Mae Angels of Testimony yn un ohonynt – ac mae’r agweddau rydym yn ffieiddio atyn nhw am y gwaith yn cymell cwestiynau, yn cyflwyno arlliw, ac yn ymdrin â chyd-destun byd-eang ehangach nag a ddisgrifir yn y gwaith ei hun. A dyna ei gymhlethdod unwaith eto. Mae yna gymaint i’w gydbwyso. Mae’n bwysig nad yw cynulleidfaoedd yn cael eu trin yn nawddoglyd drwy or-esboniad. Ond mewn cyd-destun arddangosfa, rwy’n credu mai’r tîm arddangos sy’n gyfrifol am y ddyletswydd gofal, sy’n cynnwys bod yn ystyriol o gynulleidfaoedd a’r trawma a allai fod ganddynt. Mae’n bwysig ystyried hynny o ddifrif, mae’r rhain yn bynciau trwm ac mae angen eu curadu mewn ffordd sensitif.

 

Nid yn y gwaith ei hun yn unig y mae profiad o gelf, ond mae’n byw yn y gofod rhwng y gwaith a’r gynulleidfa. Mae’r gynulleidfa’n dod â’u safbwyntiau a’u profiadau i’r cyfarfyddiad ac mae hynny’n lliwio sut mae’r gwaith yn cael ei ddehongli. Nid yw pawb ohonom yn profi celfyddyd yn yr un modd, ac ni allwn wybod sut y gallai rhywun ymateb i waith gyda chynnwys treisgar, felly mae’n ymwneud â chyfryngu’r potensial ar gyfer niwed, yn hytrach na sensoriaeth.

 

Credaf fod unrhyw beth sy’n helpu pobl i deimlo’n barod i deimlo’n rhan o’r lle maen nhw’n ei brofi, yn enwedig mewn sefydliadau celfyddydol sy’n uchel ael yn draddodiadol yn beth da – mae’n ymwneud â chamu oddi ar y lle uchel gyda’n gilydd, ac i lawr i’r llawr islaw. Gallwch ddal fy llaw os hoffech chi.

*https://socialistworker.org/2016/01/28/trigger-warnings-and-ableism


 

 

Mae Sammy Jones  yn Gynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi 9, ac yn newyddiadurwr a golygydd ar ei liwt ei hun. Hi yw Golygydd Cynnwys Ysgrifenedig Rife Magazine.