Jacqueline Fraser
Ganwyd Jacqueline Fraser yn Seland Newydd ym 1956 ac mae’n dal I fyw yno.
Credit: Jacqueline Fraser
Mae’n amhosibl rhoi diffiniad syml ar ei gosodweithiau safle-benodol, sydd yn aml wedi’u gwneud o orchuddion wal cain a chymhleth o wifrau a ffabrig, yn cyfuno defnyddiau a ganfuwyd yn lleol ac yn rhyngwladol. Bu ganddi ei sioe ei hun yn yr Amgueddfa Newydd yn Efrog Newydd yn 2001, ac mae wedi arddangos yn Biennale Fenis 2001, Triennale Yokohama 2002, a hefyd yn Ffrainc, Mecsico, Singapore a Sbaen.