Jennifer Taylor

Perfformiad Byw a Ffilm

Credit: Jennifer Taylor, Lunar Dawn, Live Performance, g39 Cardiff, 2020. Photo: Dave Daggers.

Mae Jennifer Taylor yn gweithio gyda pherfformiadau byw, ffilm a gosodwaith i archwilio ymddygiad defodol, systemau rheoli a phosibiliadau ar ôl bodau dynol. Drwy gyfuno cyfriniaeth hynafol â dyfodolaeth ffuglen wyddonol, mae’n creu naratif absẃrd gyda gwirioneddau ffuglennol amwys. Ar gyfer ei digwyddiadau byw anarchaidd, mae grwpiau o berfformwyr mewn gwisgoedd theatraidd goleuedig, yn ymuno â hi i ail-greu gwyliau ffrwythlondeb hanesyddol a seremonïau lledrithiol cymhleth o drawsnewid, mewn setiau llwyfan lliwgar, hudolus.

 

Ganed Jennifer yn Sir Benfro ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Astudiodd yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain ac yn Ysgol Ruskin, Prifysgol Rhydychen. Mae wedi cwblhau Cymrodoriaeth g39 gyda Rhaglen Artistiaid Freelands, Cymrodoriaeth Stella yn Castro Projects Rhufain a Chymrodoriaeth Cymru Greadigol yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain. Ymysg ei phrosiectau diweddar y mae Exolaris, Freelands Foundation, (Llundain, 2021); Sentinel, KARST, (Plymouth, 2021); Materia Nova, Galleria d’Arte Moderna, (Rhufain, 2021); a Lunar Dawn, g39 (Caerdydd, 2020).

 

Work – Jennifer Taylor