Kara Walker
Ganwyd Kara Walker yng Nghaliffornia ym 1969 ac mae’n byw erbyn hyn yn Efrog Newydd.

Credit: Kara Walker
Daeth i amlygrwydd gyntaf trwy ei haddasiad o gelfyddyd cysgodluniau’r 18fed ganrif a’r 19eg, gan ei defnyddio i lunio delweddau arddullaidd sy’n mynd i’r afael â chwestiynau fel hiliaeth, caethwasiaeth, trachwant a thra-arglwyddiaeth. Mae wedi arddangos ei gwaith yn Oriel Hayward Llundain, ac yn Ffrainc, yr Almaen a sawl amgueddfa yn yr Unol Daleithiau.