Lee Bul
Ganwyd Lee Bul yn 1964, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Seoul, Corea.

Credit: Lee Bul
Mae ei gwaith artistig amrywiol, ym maes cerflunio, perfformiad a fideo, yn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng natur, technoleg, a’r corff dynol. Dangoswyd gwaith Lee mewn arddangosfeydd un artist mewn sefydliadau mawr drwy’r byd i gyd, gan gynnwys yr Amgueddfa Gelfyddyd Fodern, Efrog Newydd, Amgueddfa Newydd Celf Gyfoes Efrog Newydd, Le Consortium, Dijon, a Sefydliad Japan, Tokyo.