Licris

gan Duke Al Durham

Rhybudd am y cynnwys: Gall y gerdd yma beri gofid i rai darllenwyr gan ei bod yn cynnwys disgrifiadau o brofiadau llygad y ffynnon o wahaniaethu ar sail hil, gan gynnwys difrïo hiliol.

Mae’r hogiau du’n ei alw’n niggerish’, 

Mae’r hogiau gwyn yn ei alw’n licris,
Ac maen nhw, ar y cae chwaraeon,
Yn ei alw fo yn fwnci gwirion, 

Yn rhoi’u dwylo dan eu ceseiliau,
Yna’n chwythu ac yn chwyddo’u bochau, 

Yn taflu ato groen banana, 

Yn creu ŵ-a, ŵ-a â’u lleisia’! 

Yn y gaea maen nhw’n ei alw’n welw,
Yn yr haf, yn fudur ac yn salw, 

A phan fydd y goleuadau’n diffodd,
Agor dy lygaid, maen nhw’n ailadrodd,
Neu falle rho wên fach i’n difyrru.
Maen nhw’n chwerthin, yntau’n diflasu,
Y jôcs yma’n syrffed ar ôl cyfnod
Wrth iddo fo eto guddio’i chwithdod.

 

Wrth gerdded y stryd efo’r plantos duon,
Mae o’n rhan o gang, meddai’r sibrydion.
Yr heddlu’n dragywydd yn ei stopio,
Troseddwr posib, dyna ydi-o.
Ymhlith plant gwyn, mae ’na docynistiaeth.
Gan rai hŷn, hogyn ‘lliw’ ydi’r driniaeth.
Cywirdeb gwleidyddol wedi methu.
Ond o’u rhegi yn ôl, mi gaiff o’i chwalu. 

Mae hon yn adlais drwy’r cenedlaethau
Ymhlith pobl sydd â’r un meddyliau,
Meddyliau caeedig, fyth yn agored
I frwydro’r stigma sydd hyd syrffed 

Yn llawn celwyddau am bobl dduon.
Mae’i agwedd yn beryg, mae’n llawn peryglon.
Yli’i wisg o. Sut mae’n cerdded, yn odli. 

Ond ydi o’n ddu? Wel, dweud ni fedri.’

 

Aeth blwyddyn neu ddwy arall heibio,
Dechreuodd wybod pwy’n union oedd-o.
Yn falch o hyn, mae’n penderfynu
Herio’r holl dwpdra, a’i wynebu. 

Ond nid pawb sy’n dwp er gwaetha hynny,
Ac nid pawb fynnai ei anwybyddu,
Nid pawb chwaith ’gwestiynai’i bigment,
A rhai pobl – wel fe’i cefnogent, 

Hyd yn oed o’i lysenwi’n licris. 

Na, ni fydd pawb yn hoff o’i ddewis,
Mae’n codi llais yn erbyn hilgwn,
Yn herio’u casineb a’u holl fyrdwn.
O’i alw yn ‘wyn â gwefusau rwber’,
Mae’n dweud, ‘na, dwi’n hanner a hanner,
A rhyngon ni mae na ffaith wahanol,
Dy feddwl di sydd yn gul ryfeddol.
Ti’n ofni popeth sy’n ddiarth iti,
Y syniad o epa’n dal i dy boeni,
Heb addysg, rwyt ti’n dal ati i wrando
Ar flynyddoedd o farn, na wnest ti’i llunio,
Finnau’n y golau llachar yn pefrio, 

Am na wnaiff casineb fyth fy stopio.
A chithau, a’r gweddill, yn dal i holi, 

Pa liw yn union ydi’i groen o, sgwn-i?’   

Licris gan Duke Al Durham


Credit: Duke Al Durham

 

 

 

 

 

Therapi Duke Al Durham yw sgwennu penillion. Yn ôl Duke: ‘O oedran ifanc, byddwn i’n sgriblo rapiau a cherddi yn fy hen eirlyfr. Dyna oedd fy ffordd o fynegi fy hun; dihangfa i herio’r OCD sy’n fy mhlagio. Geiriau taer, wedi’u lledu drwy rythm ac odl. Bellach, fy nod yw cael effaith drawiadol gan ddefnyddio un odl ar y tro.’ 

 

Trwy’r prosiect From Now On, derbyniodd Duke gefnogaeth fentora ac adborth beirniadol gan Taylor Edmonds, Cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From.