Michal Rovner
Ganwyd Michal Rovner yn Israel ym 1957 ac mae bellach yn byw yn Efrog Newydd.

Credit: Michal Rovner
Mae ei gwaith ar fideo a ffilm, papur a chynfas yn archwilio’r ffiniau rhwng realaeth a rhith. Bu’n cynrychioli Israel yn Biennale Fenis (2003). Mae hi wedi creu gosodweithiau fideo safle-benodol a chafodd ei ffilmiau eu sgrinio’n rhyngwladol. Sgriniwyd Notes, cywaith gyda Philip Glass, yng Ngŵyl Canolfan Lincoln 2001, Efrog Newydd a Theatr y Barbican, Llundain.