Mostyn

Mostyn
12 Stryd Vaughan
Llandudno
LL30 1AB

 

www.mostyn.org

Ffôn: 01492 879201

E-bost: post@mostyn.org

Mae Mostyn yn oriel gyhoeddus, rhad ac am ddim, yn Llandudno, Cymru, sy’n cyflwyno rhaglen o gelf cyfoes rhyngwladol rhagorol yn ei chwe oriel ac ar-lein.

 

Mae Mostyn yn cynnig rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cynnwys sgyrsiau, teithiau a gweithdai, ac mae’n cefnogi dros 400 o artistiaid drwy ei siop ar y safle ac ar-lein. Mae Cyfarwyddwr Mostyn, Dr Alfredo Cramerotti, hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Amgueddfa Gelf IAM Infinity, yn Gyd-sylfaenydd llwyfan cyhoeddi xxnft ac yn Llywydd IKT–Cymdeithas Ryngwladol Curaduron Celf Gyfoes ymhlith swyddi rhyngwladol eraill. Rydyn ni’n sefydliad Portffolio o dan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac rydyn ni’n rhan o Plus TATE a Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru. Rydyn ni ar agor 5 diwrnod yr wythnos ac rydyn ni’n gwbl hygyrch.

Credit:

Amseroedd Agor

Dydd Llun: Ar gau
Dydd Mawrth: 10.30 yb – 4.30 yp
Dydd Mercher: 10.30 yb – 4.30 yp
Dydd Lau: 10.30 yb – 4.30 yp
Dydd Gwener: 10.30 yb – 4.30 yp
Dydd Sadwrn: 10.30 yb – 4.30 yp
Dydd Sul: Ar gau

 

Rhydd i fynd i mewn.

Sut i Gyrraedd Yno

Ar y bws
I gael gwybodaeth am fysiau lleol sy’n gwasanaethu Llandudno, ewch i dudalen Trafnidiaeth Gyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu Traveline.

 

Ar y ffordd
Mae Llandudno dim ond tair milltir oddi ar wibffordd arfordirol yr A55. Cymerwch droad yr A470 ar Gyffordd 19, gan ddilyn yr arwyddion am Landudno.
Parcio: Mae lle parcio arhosiad byr yn Asda a Pharc Llandudno ar y ffordd i mewn i’r dref ac ar lawer o’r strydoedd o amgylch yr oriel. Mae parcio ar y stryd yn gyfyngedig ond mae lleoedd parcio Talu ac Arddangos ar gael ar lan y môr. Mae yna hefyd le parcio Talu ac Arddangos yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno ar diwedd Stryd Vaughan, dim ond ychydig funudau i ffwrdd ar droed.

 

Ar y trên
Mae gorsaf drenau Cyffordd Llandudno ar y prif lwybr trên rhwng Llundain a Chaergybi. Mae Llandudno dim ond 3 milltir oddi yno ar drên lleol. Gallech hefyd neidio ar fws neu gymryd tacsi o Gyffordd Llandudno. Mae’r safle bws a’r safle tacsis ychydig y tu allan i orsaf Cyffordd Llandudno. Mae MOSTYN 200 metr o Orsaf Drenau Llandudno – yn syth ymlaen ar hyd Stryd Vaughan. Amseroedd trenau.