Yn galw pob storïwr!
O Hyn Ymlaen

Yn cau ddydd Gwener 11 Mehefin 2021
5pm BST

Rhannwch gyda ni drwy e-bostio
info@artesmundi.org

Anfonwch hyd at 1,000 o eiriau, 3 cerdd
neu hyd at ddau funud o sain / fideo.

Rydym yn eich gwahodd i rannu’r straeon a’r syniadau sydd wedi’u hennyn gan Artes Mundi 9 a gyflwynwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter. 

 

Mae Artes Mundi a Llenyddiaeth Cymru wedi gweithio gyda Where I’ m Coming From i gasglu a chyflwyno straeon o bob cwr o Gymru. Gall unrhyw un gyflwyno darn, boed yn atgof yr ydych wedi ailgysylltu ag ef neu weledigaeth newydd sydd wedi’i thanio, byddem wrth ein bodd pe baech yn eu rhannu’r gyda ni. 

Bydd cyfanswm o chwe stori’n cael eu dewis a bydd yr awduron yn derbyn cymorth gan Where I’m Coming From a Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu eu syniadau a’u gwaith. Cyhoeddir y straeon hyn gan Artes Mundi yn eu cyfnodolyn ar-lein.

 

Gellir anfon straeon a syniadau rydych chi’n eu rhannu fel darnau ysgrifenedig neu rai wedi’u recordio fel ffeiliau sain neu ffilmiau byr. I deuluoedd neu grwpiau o ffrindiau sy’n dod i Artes Mundi 9 gyda’i gilydd, efallai y gallech chwarae gêm gylch lle mae pob un ohonoch yn cynnig brawddeg neu air yn ei dro i greu stori gyda’ch gilydd.

 

Rhannwch gyda ni drwy e-bostio info@artesmundi.org. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 5.00 pm Dydd Gwener 11 Mehefin 2021. Os gwelwch yn dda, sicrhewch nad yw’r gwaith ysgrifenedig yn fwy na 1,000 o eiriau o hyd, neu dair cerdd. Os fyddai’n well gennych chi anfon fideo neu glip clywedol, dylai hwn fod hyd at ddwy funud. 

 

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth. Eu gweledigaeth yw Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn bywiogi bywydau. Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gefnogi’r prosiect cyffrous hwn, sydd yn cyfuno dwy ffurf wahanol o gelfyddyd fynegiannol. Mae’r fenter hon yn cyfrannu at ein gwaith datblygu awduron ehangach yn ogystal ag ysbrydoli cynulleidfaoedd creadigol ar draws Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld y darnau terfynol yn dod at ei gilydd yn ystod yr haf.”

 

Mae Where I’m Coming From yn gydweithfa ysgrifennu sy’n canolbwyntio ar y gymuned sy’n cefnogi a rhoi llwyfan i awduron heb gynrychiolaeth ddigonol o Gymru a thu hwnt.