Oriel Gelf Glynn Vivian

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5DZ

 

https://www.glynnvivian.co.uk/

Ffôn: +44 (0)1792 516900

E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas leol ac fel rhan o’r ecosystem greadigol ar draws Cymru. Drwy arddangosfeydd, prosiectau cydweithredol, ymgysylltu cymdeithasol, dysgu, allgymorth ac addysg rydym yn gweithio gyda chynulleidfaoedd a chymunedau lleol.

 

 

Mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar ragoriaeth, cydraddoldeb, iechyd a lles, gan gefnogi artistiaid a’r mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas. Rydym yn cefnogi artistiaid lleol drwy arddangosfeydd, gwobrau, caffaeliadau a chyflogaeth, yn ogystal â dod â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw’r byd i Gymru. Rydym yn cyflwyno arddangosfeydd pwysig a chomisiynau newydd. Mae ein casgliad o gelfweithiau a chrochenwaith yn eiddo i bobl Abertawe ac yn ffurfio rhan bwysig o gof diwylliannol y ddinas. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn sefydliad Portffolio Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn rhan o Plus Tate a Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru

Credit:

Amseroedd Agor

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc
Dydd Mawrth: 10.00 yb – 4.30 yp
Dydd Mercher: 10.00 yb – 4.30 yp
Dydd Lau: 10.00 yb – 4.30 yp
Dydd Gwener: 10.00 yb – 4.30 yp
Dydd Sadwrn: 10.00 yb – 4.30 yp
Dydd Sul: 10.00 yb – 4.30 yp

 

Rhydd i fynd i mewn.

 

Hygyrchedd: https://www.glynnvivian.co.uk/visit/mynediad/?lang=cy

Sut i Gyrraedd Yno

Ar Goets
Mae gwasanaethau’r National Express yn cyrraedd Gorsaf Fysus y Ddinas (08717 818178)

 

Ar Fws
Traveline Cymru (0800 464 00 00)
www.cymraeg.traveline.cymru

 

Mewn Car
Mae priffordd yr M4 yn dod â chi’n uniongyrchol i Fae Abertawe o’r dwyrain drwy Gyffordd 42 ac o’r gorllewin drwy Gyffordd 45.
Parcio: Mae’r meysydd parcio agosaf yn y Stryd Fawr (gyferbyn â’r Orsaf Drenau) Sat Nav SA1 5BA sy’n daith lai na phum munud ar droed a Maes Parcio Stryd y Berllan (NCP) Sat Nav SA1 5AS sy’n daith lai na 3 munud ar droed.

 

arcio a Theithio
Mae gan Abertawe ddau safle Parcio a Theithio, gyda bysus o safle Glandŵr yn teithio i orsaf drenau Abertawe www.abertawe.gov.uk/Glandwr

 

Ar y Trên
Mae’r Oriel o fewn taith gerdded pum munud o Orsaf Drenau Abertawe
National Rail Enquiries (03457 484950) www.nationalrail.co.uk