Owain Train McGilvary

Artist

Credit: Owain Train McGilvary. Photo - Marcus Jack 2022.

Artist Cymreig a leolir rhwng Cymru a’r Alban yw Owain Train McGilvary; mae’n gweithio â delweddau symudol, paentio a darlunio. Mae ganddo ddiddordeb mewn ffyrdd o gyfathrebu sy’n deillio o ddiwylliant poblogaidd a llafariaith cwiyr, gan ymchwilio i’r is-ddiwylliannau sy’n ymgysylltu â nhw.  Yn ei waith mae’n ceisio archwilio cymhlethdodau cyfathrebol drwy iaith, ystum a delweddau, gan ystyried hanes llafar, damcaniaethau, deunydd a ganfuwyd a deunydd archifol drwy greadigaethau dogfennol arbrofol.

 

Ymysg ei arddangosfeydd a’u brosiectau unigol y mae I’m finally using my body for what I feel like it is made to do, Canolfan Celfyddydau’r Chapter, Caerdydd (2022) a CARU’N DDWYS, Tŷ Pawb, Wrecsam. Derbyniodd wobr y Visual Art and Craft Maker (2021), Preswyliad Graddedigion Hospitalfield (2021), Grant Ymddiriedolaeth Hope Scott (2021), a Chronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru (2021). Mae ganddo MFA o Ysgol Gelf Glasgow (2019) a BA mewn Celfyddyd Gain o Central Saint Martins (2015).

 

@owainmcgilvary