Black and white portrait photographs of Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Yasmin Begum, Ali Eisa & Damali Ibreck, on a vibrant, mid-green background.

GOHIRIOAiladdysgu: y celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol

gydag Abu-Bakr Madden Al-Shabazz

Dydd Iau 11 Tachwedd
18:00 - 19:30 GMT


Ar-lein
Am ddim

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, rydym wedi gohirio ‘Ail-addysg: y celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol gydag Abu-Bakr Madden Al-Shabazz,’ a drefnwyd ar gyfer 11 Tachwedd. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra. Rydym wedi ymrwymo i gynnal y sgwrs hon a byddwn yn cyhoeddi digwyddiad yn y dyfodol pan fyddwn yn gallu.

 

 

Pa rôl sydd gan y celfyddydau mewn ailaddysgu a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru?

 

Gan ddefnyddio fel man cychwyn yr ymrwymiad i gynnwys Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm newydd i Gymru, bydd y digwyddiad hwn yn pwyso a mesur y ffyrdd y gall y celfyddydau mynegiannol lywio arloesedd ym mhob pwnc. Byddwn yn ystyried enghreifftiau pendant o sut i fynegi ac archwilio’r hanesion hyn, a sut i annog sgyrsiau a dysgu am hil, braint a hiliaeth systemig. Bydd y panel yn edrych ar bwysigrwydd ymwreiddio lles a gofal yn yr arferion hyn, gan ddechrau meddwl am y dulliau addysgol creadigol y dylen ni geisio eu creu ar gyfer yr 22ain ganrif.

 

Bydd Yasmin Begum, Ali Eisa a Damali Ibreck yn ymuno ag Abu-Bakr.

 

Mae’r sgwrs hon wedi’i llunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgolion, colegau, prifysgolion ac o fewn y sector celfyddydau.

 

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg.

Credit: Abu-Bakr Madden Al-Shabazz

Credit: Yasmin Begum

Credit: Ali Eisa

Credit: Damali Ibreck

 

 

 

Mae Abu-Bakr Madden Al-Shabazz yn Ymgynghorydd Addysg, Cymdeithasegydd Cymharol a Hanesydd Byd yn y profiad Du ac Affricanaidd o’r cyfnod cynhanesyddol i’r cyfoes. Mae wedi cynnal rhaglen Astudiaethau Hanes Pobl Dduon lwyddiannus ym Mhrifysgol Caerdydd ers naw mlynedd ac mae bellach yn Uwch Gymrawd Gwadd ar gyfer Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd ym maes Hil ac Addysg. Mae wedi gweithio gyda sawl sefydliad diwylliannol dros y 10 mlynedd diwethaf megis: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gentle Radical, Peak Cymru, a What’s Next, ym meysydd amrywiaeth ddiwylliannol gan ganolbwyntio’n arbennig ar Wladychu, Llenyddiaeth Ddu, Democratiaeth Ddiwylliannol, Ymerodraeth a Chymru Ddiwydiannol a’i chysylltiad â’r Caribî a Gogledd America yn ystod caethwasiaeth.  Mae Abu-Bakr yn rhan o Weithgor Llywodraeth Cymru ar Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

 

 

 

Mae Yasmin Begum yn awdur ac ymgyrchydd yn ei thref enedigol yn y De. Mae’n gweithio i Honno, gwasg menywod Cymru, ac i Oscar Bright, yr ŵyl ffilm. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn dadgoloneiddio, ffilm ac ymgysylltu diwylliannol yn y celfyddydau.

 

 

 

Mae Ali Eisa(g.1987) yn artist ac yn addysgwr yn Llundain. Mae’n gyd-sylfaenydd Lloyd Corporation, prosiect cydweithredol hirdymor gyda’r artist Sebastian Lloyd Rees. Ali yw’r Rheolwr Dysgu a Chyfranogiad yn Autograph, elusen celfyddydau gweledol sy’n cefnogi ffotograffiaeth a ffilm sy’n archwilio materion hunaniaeth, cynrychiolaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad mewn celfyddydau cymunedol a gwaith ieuenctid, mae Ali’n datblygu ac yn hwyluso prosiectau cyfranogol, gyda diddordeb arbennig mewn materion hawliau dynol, grymuso a mynediad i bobl o gefndiroedd sydd wedi’u hymyleiddio’n sylweddol gan gynnwys ffoaduriaid ifanc a cheiswyr lloches, pobl niwroamrywiol a phobl anabl. Mae Ali’n ddarlithydd mewn BA Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Goldsmiths ac mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn sefydliadau celfyddydol yn y DU gan gynnwys UAL, y Coleg Brenhinol, yr Academi Frenhinol, Middlesex, Prifysgol Dwyrain Llundain.

 

 

 

Mae Damali Ibreck yn addysgwr, cynhyrchydd, cydweithredwr, ymchwilydd creadigol a chyfarwyddwr yng ngogledd Llundain ac mae o dras Dwyrain Affrica a’r Alban. Mae Damali’n gweithio mewn partneriaeth â chymunedau, ysgolion, artistiaid, cynghorau a sefydliadau i greu prosiectau uchelgeisiol sy’n gweithio tuag at ymwreiddio newid a galluogi gwell mynediad ar draws celf weledol gyfoes ac addysg gelf. Mae hi’n gyn guradur dysgu a lles yn iniva hefyd (Sefydliad y Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol) lle bu’n arwain, datblygu a chyflwyno’r elfen addysg am bedair blynedd.