A colour portrait image of Dr. Mena Fombo smiling at the camera

Arwain fel Artist

Adeiladu neu ailadeiladu llwybr creadigol sy'n iawn i chi fel person Mwyafrif Byd-eang, cynhyrchydd creadigol a/neu artist

Ar-lein

26 Gorffennaf 2024
10:00 yb - 12:00 yp
Am ddim
Click here to book now

Dyw cael gyrfa yn y diwydiant creadigol byth yn hawdd, a gall gwybod sut i ddarganfod eich lle mewn sector cymhleth fod yn anodd.

 

 

Ymunwch â ni wrth i Dr. Mena Fombo hwyluso sesiwn yn trafod sut i ganfod eich ffordd o gwmpas y sector, defnyddio’r adnoddau sydd o’ch cwmpas, datblygu’r gallu i gyflawni eich potensial, ac ehangu eich syniadau ynglŷn â sut y gall gyrfa artistig/gelfyddydol edrych i chi fel artist mwyafrif byd-eang.

 

 

Bydd y sesiwn hwn yn gyfle i wneud y canlynol:

  • Mapio eich taith arweinyddiaeth yn eich gyrfa greadigol
  • Datblygu’r gallu i gyflawni eich potensial a strategaeth ar gyfer symud drwy’r sector
  • Dod i ddeall yr hyn sydd o’ch cwmpas a sut i fanteisio arno

 

 

Am yr hwylusydd:

Mae Dr Mena Fombo (Anrh) yn sylfaenydd, cyfarwyddwr ffilm a hwylusydd.

 

 

Mae Mena yn frwdfrydig iawn ynglŷn â chreu gwell cysylltiadau rhwng pobl a chefnogi unigolion a thimau i ffynnu mewn lleoedd sydd â phwrpas iddynt.

 

 

Hi yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Black Girl Convention, stiwdio greadigol sy’n canolbwyntio ar brofiadau encilio, a chyd-sylfaenydd Blak Wave Productions, un o’r ychydig gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm sy’n eiddo i bobl Ddu yn Ne-orllewin Lloegr. Mae Mena hefyd yn hyfforddwr gweithredol, hwylusydd arweinyddiaeth, mentor profiadol, arbenigwraig encilfannau ac ymgynghorydd tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae ganddi gleientiaid ym mhob cwr o’r byd. Mae Microsoft, Netflix, NFL, Bitly, Aardman a’r BBC yn ymddiried ynddi.

 

 

Mae Mena yn llysgennad rhyngwladol i rwydweithiau datblygu busnes rhyngwladol Dinas Bryste, cyflwynwyd doethuriaeth er anrhydedd iddi am ei gwaith ym maes Cydraddoldeb gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, mae’n aelod â phleidlais o BAFTA (Gwobrau Ffilm a Theledu yr Academi Brydeinig) a hi sydd y tu ôl i’r sgwrs TEDx bwerus No. You Cannot Touch My Hair a ddenodd gyfraniadau i’r astudiaeth ymchwil o bob cwr o’r byd ac a wyliwyd gan filiwn o bobl.

 

 

Yr hyn sydd wrth wraidd holl waith Mena yw ei hymrwymiad i hyrwyddo ac ymgyrchu dros degwch, cynrychiolaeth a chynhwysiant.