At The Table gyda Alia Farid
Yng nghwmni Bridget Guarasci and Amal Khalaf
16 Tachwedd 2023
19:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle
Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.
Bydd Alia Farid yn sgwrsio â’r Anthropolegydd Amgylcheddol Bridget Guarasci ac Amal Khalaf, Curadur, Artist a Chyfarwyddwraig Rhaglenni y Cubitt, Llundain.
Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.
Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.
Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.
Credit: Filmmaker and Sculptor Alia Farid
Credit: Bridget Guarasci Headshot June 2021
Credit: Amal Khalaf by Christa Holka 2023
Mae Alia Farid (g 1985) yn byw ac yn gweithio yn Kuwait a Puerto Rico. Mae ei gwaith yn myfyrio ar fanylion gwrthrychau bob dydd sydd wedi cael eu gwneud, eu rhoi ar waith, neu eu gweithredu â llaw – cwpanau yfed cyffredin, gweithgynhyrchu beltiau, ffilmiau teuluol wedi’u gwneud â chamerâu llaw, tapestri crefftwrol – i ddatgloddio hanesion am golled ac i greu llwybrau tuag at ailddarganfod cysylltiad personol a rennir. Mewn ffurf faterol, mae ei gwaith yn darlunio sgyrsiau ymhlith pobl ac ecoleg yr ardal y maent yn byw ynddi er mwyn dod â hanesion dyrchafedig yn ôl i’r wyneb, datgloddio olion materol bywyd bob dydd, a dangos tystiolaeth o ffurfiau mynegiant creadigol sy’n cael eu diystyru yn aml.
Bridget Guarasci yw Athro Cyswllt Anthropoleg Coleg Franklin & Marshall. Mae’n anthropolegydd amgylcheddol ac mae ei gwaith yn archwilio croestoriadau rhyfel a bywyd ecolegol yn y byd Arabaidd-mwyafrifol. Mae ei llyfr, sydd ar fin cael ei gyhoeddi, Warzone Ecology: Iraq’s Marshes as Battlegrounds yn ystyried sut roedd rheoli natur yn ystod meddiannaeth yr Unol Daleithiau ac ail-greu Irac gan y Cenhedloedd Unedig yn rhyfela arbennig o filain oherwydd y ffordd roedd cadwraethwyr corstiroedd yn targedu nid yn unig ffurfiau ar fywyd ond y systemau bywyd y mae’n dibynnu arnyn nhw. Cyhoeddodd gyda’r International Journal of Middle East Studies, yr Arab Studies Journal, y Journal of Contemporary Iraq and the Arab World, yr Annual Review of Anthropology a’r gyfres Theorizing the Contemporary yn y Society for Cultural Anthropology yn ogystal â phrosiect ‘Costs of War’ Prifysgol Brown a chylchgrawn Slate.
Curadur ac artist yw Amal Khalaf ac ar hyn o bryd mae hi’n Gyfarwyddwr Rhaglenni yn Cubitt, yn Guradur Dinesig yn Orielau’r Serpentine, ac yn gyd-guradur Bienniale Sharjah sydd i’w gynnal yn 2025. Yma ac mewn sawl cyd-destun arall, mae hi wedi datblygu preswylfeydd, arddangosfeydd, cynhyrchu ffilmiau, cyhoeddiadau a phrosiectau ymchwil cydweithiol lle mae’r celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol yn cyd-daro, a hynny ar sail ei hastudiaeth barhaus o addysgeg radicalaidd. Ymhlith ei phrosiectau diweddar mae Radio Ballads (2019-22) a Sensing the Planet (2021). Mae hi’n un o sylfaenwyr cydweithfa artistiaid GCC, ac yn ymddiriedolwr Mophradat yn Athen, not/nowhere yn Llundain ac Art Night, Llundain. Yn 2019 curadodd bafiliwn Bahrain ar gyfer Fenis, yn 2018 cyd-guradodd gynhadledd ryngwladol ar y celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol, sef Rights to the City, ac yn 2016 cyd-gyfarwyddodd y 10fed rhifyn o’r Fforwm Celf Byd-eang, Art Dubai. Mae hi wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau celf yn y degawd diwethaf, gan gynnwys RAFTS gan Rory Pilgrim, sydd wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Turner 2023.