Five large fibreglass water vessel sculptures stood in a row in a large bright exhibition space. On the side of one of the sculptures it reads “Lovely Gift From Blessed Land”.

At The Table gyda Alia Farid

Yng nghwmni Bridget Guarasci and Amal Khalaf

16 Tachwedd 2023
19:00 GMT
Ar-lein
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council Cymru, Artes Mundi sy’n cyflwyno’r gyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim At The Table ar gyfer AM10.

 

Bydd Alia Farid yn sgwrsio â’r Anthropolegydd Amgylcheddol Bridget Guarasci ac Amal Khalaf, Curadur, Artist a Chyfarwyddwraig Rhaglenni y Cubitt, Llundain.

 

Daw’r gyfres At The Table â lleisiau saith o artistiaid AM10 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.

 

Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.

 

Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.

Credit: Filmmaker and Sculptor Alia Farid

Credit: Bridget Guarasci Headshot June 2021

Credit: Amal Khalaf by Christa Holka 2023

Mae Alia Farid (g 1985) yn byw ac yn gweithio yn Kuwait a Puerto Rico. Mae ei gwaith yn myfyrio ar fanylion gwrthrychau bob dydd sydd wedi cael eu gwneud, eu rhoi ar waith, neu eu gweithredu â llaw – cwpanau yfed cyffredin, gweithgynhyrchu beltiau, ffilmiau teuluol wedi’u gwneud â chamerâu llaw, tapestri crefftwrol – i ddatgloddio hanesion am golled ac i greu llwybrau tuag at ailddarganfod cysylltiad personol a rennir. Mewn ffurf faterol, mae ei gwaith yn darlunio sgyrsiau ymhlith pobl ac ecoleg yr ardal y maent yn byw ynddi er mwyn dod â hanesion dyrchafedig yn ôl i’r wyneb, datgloddio olion materol bywyd bob dydd, a dangos tystiolaeth o ffurfiau mynegiant creadigol sy’n cael eu diystyru yn aml. 

 

 

Bridget Guarasci yw Athro Cyswllt Anthropoleg Coleg Franklin & Marshall. Mae’n anthropolegydd amgylcheddol ac mae ei gwaith yn archwilio croestoriadau rhyfel a bywyd ecolegol yn y byd Arabaidd-mwyafrifol. Mae ei llyfr, sydd ar fin cael ei gyhoeddi, Warzone Ecology: Iraq’s Marshes as Battlegrounds yn ystyried sut roedd rheoli natur yn ystod meddiannaeth yr Unol Daleithiau ac ail-greu Irac gan y Cenhedloedd Unedig yn rhyfela arbennig o filain oherwydd y ffordd roedd cadwraethwyr corstiroedd yn targedu nid yn unig ffurfiau ar fywyd ond y systemau bywyd y mae’n dibynnu arnyn nhw. Cyhoeddodd gyda’r International Journal of Middle East Studies, yr Arab Studies Journal, y Journal of Contemporary Iraq and the Arab World, yr Annual Review of Anthropology a’r gyfres Theorizing the Contemporary yn y Society for Cultural Anthropology yn ogystal â phrosiect ‘Costs of War’ Prifysgol Brown a chylchgrawn Slate.

 

 

Curadur ac artist yw Amal Khalaf ac ar hyn o bryd mae hi’n Gyfarwyddwr Rhaglenni yn Cubitt, yn Guradur Dinesig yn Orielau’r Serpentine, ac yn gyd-guradur Bienniale Sharjah sydd i’w gynnal yn 2025. Yma ac mewn sawl cyd-destun arall, mae hi wedi datblygu preswylfeydd, arddangosfeydd, cynhyrchu ffilmiau, cyhoeddiadau a phrosiectau ymchwil cydweithiol lle mae’r celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol yn cyd-daro, a hynny ar sail ei hastudiaeth barhaus o addysgeg radicalaidd. Ymhlith ei phrosiectau diweddar mae Radio Ballads (2019-22) a Sensing the Planet (2021). Mae hi’n un o sylfaenwyr cydweithfa artistiaid GCC, ac yn ymddiriedolwr Mophradat yn Athen, not/nowhere yn Llundain ac Art Night, Llundain. Yn 2019 curadodd bafiliwn Bahrain ar gyfer Fenis, yn 2018 cyd-guradodd gynhadledd ryngwladol ar y celfyddydau a chyfiawnder cymdeithasol, sef Rights to the City, ac yn 2016 cyd-gyfarwyddodd y 10fed rhifyn o’r Fforwm Celf Byd-eang, Art Dubai. Mae hi wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau celf yn y degawd diwethaf, gan gynnwys RAFTS gan Rory Pilgrim, sydd wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Turner 2023.

 

 

YouTube player